Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pererin Wyf #5 Catherine Dunne ‘The Irish in London: An Unconsidered People’

Cerddoriaeth

Prosiect celfyddydau cyfranogol yw Pererin Wyf / Is oilithreach mé / I am a Pilgrim sy’n ceisio cysylltu gyda Chymry a Gwyddelod alltud gan gyfeirio’n benodol at Sir Benfro a Llwch Garmon (Wexford) a phererindod drawsffiniol newydd sydd â’r bwriad o gysylltu’r ddau le. Daw teitl ac ysbrydoliaeth y prosiect o emyn o’r 18fed ganrif gan yr emynwr toreithiog o Gymru, William Williams, Pantycelyn.

Tá Pererin Wyf, (a chiallaíonn Is Oilithreach Mé i nGaeilge) ina togra rannpháirtíoch ealaíne arb aidhm leis ceangal a dhéanamh idir diaspóraí na Breataine Bige agus na hÉireann le béim speisialta ar Pheambróg agus Loch Garman agus ar thuras nua trasteorann a fhorbairt d’fhonn na háiteanna seo a Nascadh. Is as iomann de chuid an naoiú haois déag leis an scríbhneoir bisiúil Breatnach William Williams Pantycelyn a thagann ainm agus inspioráid an togra.

Cynhaliwyd y bumed sesiwn Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé ar y 24ain o Dachwedd pan rannodd yr awdur Catherine Dunne ei phrosiect ymchwil degawdau o hyd ‘The Irish in London an Unconsidered People’. Ar daith dros y môr yn 1986 cychwynnodd Dunne sgwrs gyda menyw oedd wedi gadael Iwerddon yn y pumdegau. Soniodd hi am unigrwydd yr ymfudwr cyndyn. Arweiniodd y sgwrs honno at gannoedd mwy mewn ceginau, canolfannau Gwyddelig a chaffis, cyfres o gyfweliadau yn archwilio bywyd beunyddiol pobl yn byw yn Llundain, dinas anghyfarwydd, a arweiniodd at astudiaeth hyd llyfr Dunne.  

Comisiynwyd Pererin Wyf gan y prosiect Cysylltiadau Hynafol a arweinir gan Gyngor Sir Penfro gyda’r partneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford. Ariennir y gwaith gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.

RHANNWCH