“Dwi’n gallu cyffwrdd yr origamis i gyd… Y Pump fel anifeiliaid papur, sy wedi’u crychu i gyd rŵan achos dwi’n gafael ynddyn nhw’n rhy aml. Wps.”
Mae Cat yn un o griw’r Pump, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Mae ei ffrindiau go iawn yn ei chadw’n gryf yn ystod cyfnod heriol, ac mae’n darganfod hiwmor er gwaetha’r dioddefaint a’r boen.
Rhybudd cynnwys: Yn ogystal â themâu ac iaith gref a all beri gofid i rai, ceir cyfeiriadau at gam-drin rhywiol yn y nofel hon.
Dyma bumed nofel Y Pump – cyfres o bum nofel am bum ffrind gan bump awdur a chyd-awdur ifanc.
Megan Angharad Hunter
Mae Megan Angharad Hunter yn dod o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ac yn astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2020, enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru cyn cyhoeddi tu ôl i’r awyr, ei nofel gyntaf i bobl ifanc.
Maisie Awen
Mae Maisie Awen yn 18 mlwydd oed ac yn dod o Sir Benfro. Mae’n astudio’r celfyddydau perfformio ac yn caru pob math o gelfyddyd. Cat yw’r nofel gyntaf iddi weithio arni ond mae wedi bod yn sgwennu barddoniaeth a straeon byrion ers blynyddoedd.