Cartref digidol diwylliant Cymru.

CARCHARDAI

CelfCerddoriaeth

Bocs, Canolfan y Mileniwm Cymru

25 – 28/4

12:00 – 16:00

Dw i yn datblygu ymateb creadigol ar gyfer prosiect ‘Ymchwil a Datblygu’ Cyngor Celfyddydau Cymru yn seiliedig ar y defnydd o’r Gymraeg, ac ymchwiliad i fydoedd sain mewnol Carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y sgyrsiau, y recordiadau sain a’r gwaith ffotograffig yr ydym wedi’u cipio yn llywio seinlun ymdrochol a chanlyniad ‘Rhith-wirionedd’, a ysbrydolwyd, yn rhannol, gan ‘Garchardai Dychmygol’ yr artist Giovanni Battista Piranesi. Cydweithrediad hefo Supercharger Blown Collective.

Mae’n amgylchedd hynod ddiddorol a gwaharddol, ac mae fy ymchwil wedi arwain at ddarganfod sut mae perthynas Cymraeg â ‘trosedd a chosb’ wedi newid dros y Canrifoedd; o drais y ffug-lysoedd, a darostyngiad defodol Y Ceffyl Pren, i wirioneddau’r oes bresennol.

Rwyf hefyd yn ymchwilio i sut mae sain yn cael ei ddefnyddio, a’i brofi o fewn carchardai yn fwy cyffredinol, a’r effaith y mae hyn yn ei gael fel modd o reoli, a sut mae hyn yn effeithio ar fodolaeth bob dydd y rhai sydd ‘y tu mewn’.

Bydd canlyniad ‘gwaith arbrbofol’ i’w weld yn y gofod ‘bocs’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, o ddydd Iau, Ebrill 25ain tan ddydd Sul yr 28ain, o 12 tan 4pm.

Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales

H.M.P. Parc Prison & Y.O.I


Eddie Ladd


Ric Bower

RHANNWCH