Mae SPAN yn falch iawn o gyflwyno i chi Bwystfilod Aflan, cynhyrchiad newydd arloesol gan Music Theatre Wales yn Theatr Byd Bach. Mae’r cynhyrchiad arloesol, teithiol, Cymraeg hwn yn cyfuno opera, dawns a ffilm i amlygu’r gwrthdaro rhwng traddodiad a newid.
Wedi’i ysbrydoli gan bryddest ddadleuol Edward Prosser Rhys ATGOF a oedd yn fuddugol yn Eisteddfod 1924, mae Music Theatre Wales wedi cydweithio â Music@Aber a Sinfonia Cymru i gynhyrchu eu comisiwn newydd Bwystfilod Aflan, ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd Bwystfilod Aflan yn craffu ar yr ysgytwad cymdeithasol a ysgogwyd gan ATGOF, gan dreiddio i’r newidiadau oddi mewn i’r wlad, ei chyfrinachau dan gof, ac is-gerrynt moderniaeth. Roedd cerdd Prosser Rhys yn darlunio rhyw, chwant, a rhamant rhwng dau ddyn ifanc yn ddigywilydd, gan herio normau cymdeithasol ei gyfnod pan oedd cyfunrhywiaeth yn dal yn anghyfreithlon. Roedd ei waith nid yn unig yn adlewyrchu ei realiti ond hefyd yn ysgogi ymateb a geryddodd ac a wobrwyodd ei fynegiant creadigol fel ei gilydd, gan dynnu sylw at gymhlethdodau a rhagfarnau’r cyfnod.
Mae Bwystfilod Aflan yn gynhyrchiad Cymraeg wedi ei gyfarwyddo gan Jac Ifan Moore a’i gynllunio gan Elin Steele. Mae’n cynnwys dwy ran: monodrama operatig a grëwyd gan Conor Mitchell a Jac Ifan Moore a berfformir gan y tenor Elgan Llŷr Thomas, a myfyrdod symudiad a llais ar ATGOF gan Prosser Rhys a grëwyd gan Eddie Ladd, Sion Orgon, a Jac Ifan Moore ac a berfformir gan Eddie Ladd.
Ymunwch â ni yn Theatr Byd Bach, Aberteifi, ddydd Gwener Hydref yr 11eg am 7.30pm ar gyfer y darn hwn o theatr arloesol, llawn dychymyg. Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw o span-arts.org.uk neu cysylltwch ag info@span-arts.org.uk am wybodaeth bellach.
Gallwch ddarllen mwy am Bwystfilod Aflan, y cast, ei greu a’i gyd-destunau ar wefan y Music Theatre Wales yma.