Mae Blood Moon yn stori ergydiol, byw, a doniol am gariad cyntaf, rhywioldeb, a chyfeillgarwch benywaidd dwys – tra hefyd yn ymdrin â’r ecsbloetio parhaus sydd yn digwydd ar-lein, ac erchylltra mynd yn feirol. Mae’r gyfrol, sydd yn dychryn tra hefyd yn codi calon, yn trafod bywyd pobl ifanc yn eu harddegau heddiw yn uniongyrchol, ac yn pwysleisio pŵer cyfeillgarwch wrth geisio dod o hyd i’r goleuni, yn y tywyllwch.
Blood Moon yw nofel gyntaf LUCY CUTHEW. Mae wedi cyhoeddi dros dri deg o lyfrau i blant, gan gynnwys llyfrau lluniau, llyfrau addysgiadol, a ffeithiol. Mae’n aml yn ymddangos ar y BBC i drafod llyfrau plant. Roedd yn olygydd llyfrau plant am dros ddeng mlynedd, yn gweithio’n llawrydd ac i gyhoeddwyr a graddiodd â Gradd Meistr mewn Ysgrifennu ar gyfer Pobl Ifanc yn 2019 o Brifysgol Bath Spa, â gradd nodedig o uchel. Mae’n mwynhau gwylio rhaglenni teledu sydd wedi eu creu gan fenywod doniol, gwrando ar bodlediadau gwyddoniaeth, mynyddoedd, a croissants. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’u hefeilliaid ifanc, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar nofel mydr ac odl newydd ar effaith pornograffi ar-lein ar bobl ifanc.