Cartref digidol diwylliant Cymru.

‘Ble Mae Boc? Ar goll yn y chwedlau’, Huw Aaron (Y Lolfa)

Llenyddiaeth

Mae Boc, y ddraig fach ddiniwed, wedi mynd ar goll unwaith eto – y tro yma mewn bydoedd dychmygol Cymru. Ewch ati i chwilio amdani ym Myd y Mabinogi, Cantre’r Gwaelod, Teyrnas y Tylwyth Teg, Sw Angenfilod… a llawer mwy!

Mae HUW AARON yn byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu, ac yn gweithio fel dylunydd a chartwnydd. Mae Huw wedi darlunio nifer o lyfrau i blant a stribedi comig, gan gynnwys y cylchgrawn poblogaidd i blant Mellten. Mae Huw hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd at Private Eye, The Oldie a The Spectator.

RHANNWCH