Cartref digidol diwylliant Cymru.

Beth yw teilyngdod?

Llenyddiaeth

Meritocratiaeth, diffinio cariad, cyflog am waith tŷ a chrwydro coridorau’r nofel brifysgol …

Cyhoeddi Rhifyn Gwanwyn 2021 o gylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt.

#PedwarGwynt

Yn Rhifyn Gwanwyn 2021 O’r Pedwar Gwynt gofynnir ai haeddiant y llwyddiannus yw eu llwyddiant. Meddai Rhianwen Daniel: ‘Mae’r natur ddynol yn gyfrwys pan mae’n fater o gyfiawnhau llwyddiant.’ Ac i ba raddau mae ein diwylliant cystadleuol digyfaddawd yn tanseilio bywyd i bob un ohonom?

Ffilm gan yr awdur Nobel Sfetlana Aliecsiefits – Lyubov, Love in Russian – sydd wedi gafael yn nychymyg Eluned Gramich. Wrth sgwrsio â’i gŵr ar y ffordd i barc Trelái, mae’r ddau yn pendroni beth yw cariad mewn gwirionedd: ‘Mae cariad yn deimlad trugarog … Wnes i erioed ddeall beth oedd mor ddrwg am deimlo “tosturi” dros rywun. Mae angen gofalu am bawb mewn rhyw ffordd. Does dim cywilydd yn hynny,’ meddai ei gŵr.

Yn ei herthygl ‘Nid Slwtsh mo waith tŷ’ dadleua Catrin Ashton y dylai llafur cariad gael ei drin fel gwaith go iawn ac y dylid talu cyflog i rieni i edrych ar ôl eu plant ac i gadw tŷ: ‘Talwch y mamau; talwch y rhieni; rhowch gyflog iddynt. Nid cyflog mo fudd-daliadau.’

Caiff Ceridwen Lloyd-Morgan hwyl yn crwydro coridorau’r nofel brifysgol ond mae hi hefyd yn olrhain dyfodiad y cwsmer i’r byd academaidd i nofel C P Snow, The Masters, lle gwelwn gymrodyr yn seboni diwydiannwr cyfoethog. Meddai, ‘Yn y byd didrugaredd hwn, try cam-drin arian yn grefft.’

Yn eu colofnau, mae Dylan Foster Evans yn dadansoddi tywydd brochus, Siân Melangell Dafydd yn ffroeni craf y geifr ar lawr y goedwig, Huw L Williams yn gresynu nad oes gan athroniaeth ddim i’w ddweud am rianta, Mihangel Morgan yn casglu mai arwyddocaol yw prinder yr enghreifftiau Cymreig o bethau ‘camp’, Emyr Ll Gruffudd yn gofyn pam nad oes plac coffa yng Nghaernarfon i T Hudson-Williams a Schopenhauer yn rhoi cyngor defnyddiol ac amserol ar sut i fod yn gywir bob amser.

Ceir mwy hefyd: yn ogystal â’r adolygiadau arferol, y gwaith cyfansoddi a’r croesair, mae gennym gyfweliad â Peter Lord ac un arall â Sfetlana Aliecsiefits; mae Cynog Dafis yn holi beth dda yw myth?, Llion Wigley yn gofyn am ailddiffinio nerth, Iwan Rhys Morus yn olrhain y berthynas rhwng Musk, Tesla ac Edison, R J W Evans yn edrych ar y tebygrwydd rhwng O M Edwards a ffigurau cyffelyb ar y cyfandir a Mererid Puw Davies yn dadlennu pleser rhannu iaith yn ei hysgrif, ‘Mewn tafod does dim esgyrn’. Heb anghofio Derfel Clarke yn pwdu yng nghysgod y deallusion metro a’r golofn sêr sy’n bowio a chodi het i’r lleuad.

Tanysgrifiwch i O’r Pedwar Gwynt am gyn lleied â £10 y flwyddyn YMA, neu mynnwch gopi o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH