Ydych chi’n ddarllenydd brwd, neu’n chwilio am fymryn o ysbrydoliaeth ar gyfer eich silff lyfrau? Os felly, dyma’r ffordd ddelfrydol i chi ymlacio’r nos Wener yma, wrth i ni gloi dathliadau Wythnos Llyfrgelloedd 2020!
Yn ystod y misoedd diwethaf, lle bu newid eithriadol yn ein patrwm gweithio a phrysurdeb ein bywydau cymdeithasol, mae llawer wedi manteisio ar y cyfle i gydio mewn arferion darllen newydd.
Ymunwch ag Efa Lois, Elin Tomos, Lauren Connelly, Mari Elin Jones a Nia Llinos wrth iddynt drafod popeth o’u harferion darllen, i’r darnau sydd wedi dylanwadu arnynt ers y Clo Mawr.