Cartref digidol diwylliant Cymru.

Baich y frenhines: Yr awdur yn ei helfen

No Categories Found

A suai, megis ewyn môr dihedd,
Dwrf adanedd dirifedi wenyn
         

            R Williams Parry

Dwi ddim yn credu mewn gwneud addunedau ar ddechrau’r flwyddyn. Dyw amddifadu fy hun o bleserau bywyd ar adeg lyma’r flwyddyn yn gwneud dim synnwyr i mi. Yn lle hynny, penderfynais flynyddoedd yn ôl y byddwn yn dysgu rhywbeth newydd bob blwyddyn. Hyd yn hyn, ac ymysg pethau eraill, dwi wedi dysgu marchogaeth ceffyl, wedi astudio’r grefft o grasu bara ac, yn fwy diweddar, wedi dechrau cadw gwenyn. I’r perwyl hwnnw, fe ddarllenais lyfrau, hoelio cwch at ei gilydd ac yna mentro i sêl i brynu gwenyn. Ond yn fuan iawn fe sylweddolais nad rhyw ‘affêr’ tymor byr yw cadw gwenyn ond priodas oes sy’n golygu cyd-weithio a chyd-fyw, gan dderbyn, efallai, na all y naill na’r llall yn y bartneriaeth hon fyth ddeall ei gilydd yn iawn. Yn wir, y dirgelion hyn yw’r awel sy’n cadw fflam y garwriaeth rhwng gwenynen a dyn ynghyn.

Dyn dall o’r enw François Huber ddatguddiodd rai o gyfrinachau’r gwenyn a dyfeisio cwch fel bod modd eu hastudio a’u harchwilio. Pam ‘cwch’ yn y Gymraeg? Does neb yn gwybod a dweud y gwir, ond honnir gan rai mai’r ffaith bod cwch gwenyn traddodiadol yn edrych fel cwch ben i waered yw’r rheswm. Pwy a ŵyr? Beth bynnag, fe lwyddodd Huber i wahaniaethu rhwng y frenhines, y gwenyn segur a’r gweithwyr. Fe astudiodd ddatblygiad yr wyau, y neithdar a’r propolis. Y gred am gyfnod hir oedd mai brenin oedd gan gwch, nid brenhines, ac mai’r gweithwyr benywaidd fyddai’n dodwy. Diddorol hefyd yw nodi mai ar ffurf llyfr yr oedd cynllun Huber am gwch gwenyn. Dychmygwch lyfr a’i feingefn am i lawr a’r dalennau unigol yn fframiau o grwybr. Byddai’r gwenynwr yn cribo trwy’r tudalennau wedyn ac yn darllen y negeseuon a adewid yno iddo gan y gwenyn.

Darllen mwy yma

RHANNWCH