Wedi dewis y lliw mwyaf addas ar gyfer cefndir y post diweddaraf, gwirio rhag unrhyw gamgymeriadau, ac arbed y llun o’r ap dylunio i’m ffôn, dyma agor Instagram. Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn ysgrifennu nodyn esboniadol i gyd-fynd â ’ngwaith, yn hytrach na nodi’r teitl yn unig. Mae’r post yn gwneud ychydig yn well o’r herwydd. Tybed pam? Rhaid cofio’r hashnodau: #cerdd #barddoniaeth #instagerdd. Ac er mai cerdd Gymraeg sydd gen i heddiw, wneith hi ddim drwg i gynnwys rhai Saesneg chwaith, i ddenu ambell i like ychwanegol: #poem #instapoem. Barod i fynd. Ar ôl i mi wasgu ‘post’, dwi’n cau’r ap. Troi ’nôl at fy mhaned, fy nghinio, fy ebyst, beth bynnag oedd ar ei hanner cyn i mi gofio fy mwriad i bostio heddiw. O fewn eiliadau mae’r ffôn yn fy llaw eto; o ddiddordeb, dwi’n dweud wrthyf fy hun, dim ond i weld a oes unrhyw ymateb. Er gwybodaeth yn unig. Ambell galon gan gyfrifon dienw, diberson, sy’n hoffi popeth #instapoem, ond dim byd arall eto. Dechrau poeni: efallai fod gormod o amser ers i mi bostio’r tro diwethaf, a bod yr algorithm heb ddangos fy ngwaith i fy nilynwyr. Gwell rhannu i’r stori i dynnu sylw. Wrth wylio’r likes yn cynyddu, a’r dopamine yn cyrraedd fy ymennydd, dwi’n cofio: nid dyma pam dwi’n gwneud hyn.
Rhyddid creadigol oedd y rheswm pam wnes i ddechrau’r cyfrif yn y lle cyntaf. Wedi chwarae â geiriau yn breifat am flynyddoedd, dilynais ddatblygiad barddoniaeth Instagram â diddordeb mawr. Dyma blatfform sy’n cael ei feirniadu am fod yn llawn influencers gordenau a hidlenni sy’n prysur newid normau prydferthwch. Ond, ym mysg y dylanwadau andwyol, mae yna gymuned greadigol sy’n cynhyrchu corff o waith gwreiddiol diddorol. Mae’n gyfrwng hynod boblogaidd: mae chwiliad #poem ar yr ap yn cynnig dros 20 miliwn o ganlyniadau. ‘Democrateiddio’r awen’ yr oedd Gwyn Thomas, yn ôl Gerwyn Wiliams, wrth iddo ddefnyddio barddoniaeth i drafod pethau cyffredin, bob dydd, ac ymgorffori’r cyfryngau poblogaidd yng nghynnwys a ffurf ei waith. Onid dyma’n union sydd wedi digwydd ar Instagram dros y blynyddoedd diwethaf? Mae gan y miliynau sy’n cyhoeddi drwy’r platfform hwnnw y rhyddid i ysgrifennu yn union fel y mynnant am ba bwnc bynnag sy’n mynd â’u bryd, heb boeni am ofynion y sefydliad llenyddol na statws aruchel barddoniaeth. Does dim raid gofyn caniatâd, na chael eich derbyn gan olygydd cylchgrawn, i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, dim ond mynd ati’n uniongychol i greu post a’i gyhoeddi. Difyr yw meddwl beth fyddai ymateb Gwyn Thomas ei hun i’r mudiad hwn: digon posib y byddai yntau’n rhan o’r llu o ‘instafeirdd’ sy’n ymfalchïo yng nghydraddoldeb creadigol y cyfrwng.
Darllenwch yn llawn, am ddim, ar www.pedwargwynt.cymru