Cartref digidol diwylliant Cymru.

Arwain o chwith

No Categories Found

‘Free Gear Keir’, Vaughan Gething ac Einar Gerhardsen 


Rhoddion dadleuol i wleidyddion gan noddwyr a’r ymdrechion i gyfiawnhau’r derbyn sydd dan sylw ein colofnydd y mis hwn.

Gwn o brofiad fod darllenwyr BARN yn griw nodedig o wybodus ac eang eu gorwelion. Eto i gyd, rwy’n fodlon mentro na fydd llawer yn eich plith wedi clywed am Einar Gerhardsen. Hynny er gwaetha’r ffaith ei fod wedi gwasanaethu fel Prif Weinidog Norwy am 16 mlynedd, sef y cyfnod hwyaf i unrhyw berson feddu’r swydd honno yn hanes y Norwy ddemocrataidd.

Fel arweinydd y Blaid Lafur Norwyaidd – yr Arbeiderpartiet – chwaraeodd rôl ganolog yn ailadeiladu’r wladwriaeth ar ôl chwalfa’r Ail Ryfel Byd, gan osod y seiliau ar gyfer y wlad lewyrchus a blaengar yr ydym bellach yn gyfarwydd â hi. Cymaint ei gyfraniad, yn wir, nes y cyfeirir at Gerhardsen yn fynych fel ‘landsfaderen’ – ‘tad y genedl’.

Mae yna lawer iawn, iawn i’w edmygu amdano. Dyma ddyn a gychwynnodd ei fywyd gwaith yn llythrennol â chaib yn ei ddwylo – fel gweithiwr ffordd. Dyma ŵr a chwaraeodd ran wirioneddol arwrol yng ngwrthsafiad Norwy yn erbyn goresgyniad y Natsïaid – fe’i carcharwyd a’i boenydio gan y Gestapo, a threuliodd flynyddoedd olaf y rhyfel mewn concentration camp. Yn wir, os oes gennych gysylltiad â’r we wrth law, rwy’n argymell eich bod yn mynd ati i chwilio am ei hanes. Heb ei fai heb ei eni, wrth gwrs, ond mae Einar Gerhardsen yn un o’r ffigyrau dyrchafol hynny y mae dysgu mwy amdanynt yn ysbrydoliaeth.

Daw hyn â mi at un o’r pethau y mae llawer o’i edmygwyr – minnau yn eu plith – yn eu cael yn fwyaf deniadol amdano, sef y ffaith na chafodd Gerhardsen erioed mo’i hudo gan y rhwysg a’r golud sy’n amlach na pheidio’n dod i ganlyn grym. Trwy gydol ei gyfnod fel Prif Weinidog fe barhaodd ef a’i deulu i fyw yn yr un fflat bychan – fersiwn Norwy o dŷ cyngor – yn Tøyen, un o ardaloedd dosbarth gweithiol Oslo. Yn wir, pan ddaeth Khrushchev, arweinydd yr Undeb Sofietaidd ar y pryd, ar ymweliad i Norwy yn 1964, fe’i gwahoddwyd draw i’r fflat hwnnw i gyfarfod y teulu. Mae’n debyg mai cwestiwn Khrushchev ar ôl ei ymweliad oedd ‘lle mae o’n byw go iawn?’ Ac yntau’n byw mewn moethusrwydd mawr, ni allai Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd ddychmygu bod arweinydd gwlad ‘fwrgeisiol’ yn byw mewn modd mor syml a dirodres. Ond nid yn unig yr oedd Gerhardsen yn byw yno ar y pryd; yno y bu hyd ei farwolaeth yn 1987.

Rwyf wedi bod yn meddwl tipyn am Gerhardsen yn ddiweddar wrth weld dau arweinydd adain chwith cyfoes – y naill yn Llundain a’r llall yma yng Nghaerdydd – yn mynd i ddyfroedd dyfnion a hynny oherwydd eu bod wedi syrthio’n brin o’r safon yr ydym yn ei ddisgwyl gan arweinwyr adain chwith, yn benodol.

Go brin fod yn rhaid i mi ailadrodd manylion yr holl roddion – y dillad, y tocynnau, y sbectol frawychus-o-ddrud – y mae Syr Keir Starmer wedi eu derbyn gan wahanol noddwyr, na’r modd y mae’r arfer o dderbyn anrhegion drudfawr wedi ymestyn i aelodau hŷn y llywodraeth newydd. Mae’r wasg Geidwadol wedi cael hwyl garw’n eu rhestru a’r llysenw ‘free gear Keir’ eisoes fel petai’n ennill ei blwyf.

Fe ddefnyddiwyd dwy strategaeth rethregol er mwyn ceisio amddiffyn ymddygiad y Prif Weinidog. Bu rhai, gan gynnwys Syr Keir ei hun, yn ceisio cuddio y tu ôl i’r haeriad ‘nad oes unrhyw reolau wedi cael eu torri’. O’r herwydd, nid oes unrhyw reswm i’w gystwyo ef, Angela a’r criw.

Rydym ni Gymry’n gyfarwydd ag enghraifft ddiweddar arall o wleidydd Llafur yn defnyddio’r un esgus. Dyma union amddiffyniad Vaughan Gething ar ôl iddo gael ei feirniadu am dderbyn rhoddion sylweddol gan gwmnïau preifat dadleuol i ariannu ei ymgyrch i olynu Mark Drakeford. Oherwydd ‘na thorrwyd y rheolau’ fe geisiodd Gething a’i gefnogwyr ddadlau bod unrhyw feirniadaeth ohono’n annilys ac yn annheg. Yn wir, fe aeth rhai ohonynt mor bell â lled awgrymu bod unrhyw feirniadaeth ohono’n hiliol.

Fel y dywedodd Vaughan Roderick ar rifyn diweddaraf podlediad Radio Cymru, ‘Gwleidydda’, ymateb cyfreithiwr ydi dweud ‘na thorrwyd unrhyw reolau’. Hyd yn oed os yw hynny’n digwydd bod yn dechnegol gywir, mewn termau moesol a gwleidyddol mae’n annigonol. Yn achos Gething, fe fethodd ag argyhoeddi hyd yn oed aelodau ei blaid ei hun a bu’n rhaid iddo fynd. Fe fydd mwyafrif enfawr Llafur yn Nhŷ’r Cyffredin yn sicrhau na fydd Starmer yn profi’r un ffawd. Serch hynny, fe fydd ei enw da wedi ei niweidio’n barhaol gan ei ymddygiad ac unrhyw awdurdod moesol a feddai wedi ei danseilio’n sylweddol.

Yr ymateb arall i’r feirniadaeth o Keir Starmer fu pwyntio bys at yr holl roddion hael y bu Boris Johnson yn eu derbyn pan oedd yntau’n dal yr un swydd. Ac wrth reswm, roedd Johnson â’i drwyn – ac yn wir ei garnau – yn y cafn. Dyma ddyn sy’n fwy na bodlon derbyn nawdd gan edmygwyr cefnog heb boeni rhyw lawer ynglŷn â tharddiad eu grym a’u golud. Eto i gyd, tydi dadl i’r perwyl fod hoff wleidydd y wasg Geidwadol ‘hyd yn oed yn fwy barus na’n boi ni’ ddim yn debyg o argyhoeddi unrhyw un.

Rhan o’r rheswm am hynny yw rhagrith noeth Starmer ei hun, gŵr a fu’n fwy na pharod i gollfarnu diffygion moesol Johnson pan oedd yn arwain Llafur fel gwrthblaid. Ond mae yna fwy iddi na hynny hefyd. Er gwaeth neu er gwell, mae elfen o gollfarn moesol yn rhan anhepgor o unrhyw wleidyddiaeth adain chwith sy’n haeddu’r enw. Dyma wleidyddiaeth sy’n ochri â’r mwyaf anghenus a’r diymgeledd, ac yn gwrthsefyll grym anatebol ac anhaeddiannol. Os nad yw arweinwyr y chwith yn byw eu gwerthoedd maent yn eu tanseilio’u hunain yn llygaid pawb, ac yn bennaf oll yn llygaid eu dilynwyr eu hunain. Nid oedd Einar Gerhardsen angen ei atgoffa o hynny – byddai gwneud unrhyw beth arall ac eithrio byw ei werthoedd wedi mynd yn gwbl groes i’w natur. Yr oedd wedi ei alw i wasanaethu eraill yn hytrach na phluo ei nyth ei hun. Ysywaeth, ymddengys nad yw’r un peth yn wir am rai yn uchel rengoedd y Blaid Lafur Brydeinig.

Richard Wyn Jones

RHANNWCH