Enlli Artist Preswyl: Awst 10 – 17 2024
Ganwyd a magwyd Menna Angharad yng Ngwynedd, astudiodd botaneg ym Mangor ac wedyn celf gain yn Llundain a Chaerdydd. Yn peintio bywyd llonydd mean olew ar gynfas lliain mae hi yn gweithio yn uniongyrchol o fywyd, yn creu delweddau ysgafn sy’n ystyried natur werthfawr a diddorol o bethau bob dydd, wrth adael lle i feddyliau a dehongliadau’r gwyliwr ei hun. Mae ei gwaith wedi’i diffinio gan donau ysgafn gydag ychydig olion o liwiau llachar natur, ynghyd â gwaith pwerus gyda chyllell a brwsh, sy’n rhoi ansawdd sgleiniog ac uniongyrchol i’w phaentiadau.