Cartref digidol diwylliant Cymru.

ANIQ

Llenyddiaeth

Aniq
“Oes raid i adra fod yn dŷ o walia a ffenestri? Be am lle bynnag dwi’n teimlo ar fy ngora? Geith fama fod yn adra? Fama. Lle ma bob dim yn gneud sens.”

Mae Aniq yn un o griw’r Pump, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Yng nghanol cyfnod anodd o orfod ymdopi â bywyd ysgol, galar a gwrthdaro teuluol, mae crefydd, celf a chyfeillgarwch yn gynhaliaeth iddi.

Dyma drydedd nofel Y Pump –  cyfres o bum nofel am bum ffrind gan bump awdur a phum chyd-awdur ifanc.

Rhybudd cynnwys: Yn ogystal â themâu ac iaith gref a all beri gofid i rai, ceir cyfeiriadau at Islamoffobia, galar a gorbryder yn y nofel hon. 

Marged Elen Wiliam
Yn wreiddiol o Fangor, mae Marged bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl cyfnodau yn byw ac astudio yn Llundain a Chaergrawnt. Yn ddiweddar, cwblhaodd radd MPhil mewn Astudiaethau De Asiaidd. Mae’n gweithio fel swyddog polisi ac yn treulio’r rhan fwyaf o’i hamser sbâr yn sgwennu neu’n synfyfyrio.

Mahum Umer

Mae Mahum Umer yn Bacistani trydedd genhedlaeth a anwyd yng Nghymru, ac mae’n falch o’i gwreiddiau Pacistanaidd a Chymreig. Mae’n astudio Cymraeg ac yn gobeithio defnyddio ei phrofiadau i ddod ag amrywiaeth i lenyddiaeth a’r cyfryngau, gan ddechrau gydag Aniq, ei phrofiad cyntaf o weithio ar nofel.

RHANNWCH