Mi wnes di ysgrifennu dy gyfrol Amser Mynd fel ymateb i daith estynedig yn nifer o wledydd De-ddwyrain Asia. Sut fuaset ti’n disgrifio’r gyfrol? Fel dyddiadur taith neu fel casgliad o ysgrifau? Oedd gen ti syniad penodol o’r ffurf yr oeddet am ei mabwysiadu cyn cychwyn? Ac a oedd y syniad o lunio cofnod gen ti eisoes pan ddechreuaist freuddwydio am y daith ac yna ei threfnu?
Taith o dri mis o Fedi 2017 hyd at Ragfyr 2017 oedd hi. Ro’n i newydd orffen cyfnod o ymarfer dysgu a sylweddoli nad oedd dysgu yn gweddu i mi o gwbl, ac ro’n i’n teimlo braidd ar goll. Fel nifer o bobl yn eu hugeiniau, penderfynais mai codi pac a mynd i ochr arall y byd oedd y cam nesaf priodol.
O ran fy nisgrifiad i o’r gyfrol, mewn gwirionedd y darllenydd sy’n penderfynu’r hyn maen nhw am ei weld. Ar un wedd llyfr taith ydyw, sydd yn ceisio rhoi ymdeimlad o le i ddarllenydd, a gwneud y pethau mae llyfr taith yn ei wneud yn ddigon solet. Ond, gellir hefyd ddweud mai sail ydy hynny i drafod a cheisio deall y weithred o deithio, ynghyd â’r goblygiadau moesol o wneud hynny yng nghyd-destun arian, hil, iaith, diwylliant a’r amgylchedd.
Oeddet ti wedi d’ysbrydoli gan fodelau gan eraill sydd wedi teithio a chofnodi?
Roeddwn i’n ofalus i beidio â darllen gormod o lyfrau taith wrth ysgrifennu, rhag ofn y buasai hynny’n dylanwadu’n ormodol ar y dweud. Rwy’n meddwl fod rhan ohona i wedi ceisio ysgrifennu’r llyfr yr hoffwn i fod wedi ei ddarllen cyn mynd – rhyw fath o fyfyrdod ar gymhlethdodau teithio o safbwynt Cymro Cymraeg ifanc. Rwy’n sicr fod yna lyfrau teithio sy’n ceisio amgyffred goblygiadau braint ond dw i erioed wedi’u darllen. Rwy’n meddwl efallai y byddai hynny wedi lladd yr angen oedd gen i i archwilio’r themâu hyn a’u mynegi ar bapur. Ond gan fod y peth mas yn y byd erbyn hyn rwy’n croesawu argymhellion!
I ba raddau roedd y gwaith ysgrifennu’n daith gyfochrog i’r un ddaearyddol, hynny ydi, yn daith arbennig yn rhinwedd ei hun? Mae’r ysgrifol yn aml yn cael ei gweld fel modd i deithio tuag at yr anghyfarwydd, yr anhysbys, heb sicrwydd fod unrhyw beth o werth i’w ddarganfod yn y pen draw. Oedd tebygrwydd rhagweladwy rhwng y ddwy daith hon, neu ges di dy synnu? Pa un oedd fwyaf brawychus? Y daith dros dir neu ar bapur?
Ie, mae yna dipyn i ystyried fan hyn. Man cychwyn y llyfr oedd y teimlad rhyfedd yma o rwystredigaeth oedd yn fy nilyn i drwy gydol y daith, fod pethau ddim i weld yn iawn, rywsut. Mae’r anniddigrwydd yna i weld yn y dyddiadur ysgrifennais ar y pryd, ond dim ond nes ymlaen a thrwy fyfyrio y des i i ddeall mai grymoedd cyfalaf a hiliaeth oedd wrth wraidd yr anniddigrwydd hwn.
Dyma efallai pam mai ffurf yr ysgrif oedd yn gweddu orau i’r benbleth. Rwy’n ysgrifennu mewn amryw o gyfryngau am y rheswm syml fod rhai syniadau’n gweddu i un cyfrwng yn well na’r llall. Gyda’r ysgrif mae’r syniad yma o geisio dirnad, o ddod i ddeall a fforio bron â bod yn greiddiol iddi. Mae’n fwy amlwg o bosib yng ngwreiddiau’r gair Saesneg essay, o’r Ffrangeg essai – i geisio (efallai bod gwell cyfieithiad gennyt ti) – ac mae nifer o awduron Saesneg eu hiaith yn gwneud yn fawr o’r gwreiddiau hyn wrth drafod ffurf yr ysgrif. Ond yn y gair ysgrif, i mi, mae’r weithred lythrennol o ysgrifennu, o roi pethau i lawr ar bapur er mwyn ceisio deall. Roedd angen i mi ysgrifennu dyddiadur ar y pryd er mwyn dechrau deall, ac roedd angen i mi ysgrifennu llyfr er mwyn deall yn well.
Rwy’n meddwl mai’r unig beth wnaeth wirioneddol fy synnu oedd sylweddoli beth oedd hi i fod yn berson gwyn yn y gwledydd hyn, a gweld bod yr un peth yn wir nôl adref yng Nghymru. Sylweddoliad y mae nifer o bobl wyn eraill wedi ei rannu gyda mi yn y flwyddyn ers marwolaeth George Floyd – o ran eu braint nhw a sut y mae hynny’n cael ei fynegi o fewn cymdeithas.
Darllenwch y cyfan, am ddim, ar wefan pedwargwynt.cymru.