Cartref digidol diwylliant Cymru.

Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg

Llenyddiaeth

Lansio gŵyl ddarllen newydd ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

Yn sgil llwyddiant ‘Amdani’, y gyfres o lyfrau i ddysgwyr Cymraeg, bydd Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg yn cael ei chynnal rhwng 4 Mawrth (Diwrnod y Llyfr) ac 11 Mawrth 2021.

Nod yr ŵyl rithiol, sy’n cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yw annog dysgwyr i ddefnyddio a mwynhau eu Cymraeg trwy ddarllen ystod o ddeunyddiau, boed yn llyfrau, cylchgronau neu wefannau.

Mwy o fanylion yma

Ymhlith uchafbwyntiau Amdani – Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg, 4-11 Mawrth, mae:

  • Stori fer newydd ar gyfer dysgwyr gan Llŷr Gwyn Lewis, enillydd stôl Eisteddfod AmGen 2020.
  • Cerdd newydd ar gyfer dysgwyr gan Terwyn Tomos, enillydd stôl Eisteddfod AmGen 2020.
  • Straeon fideo dyddiol o’r gyfrol i ddysgwyr Ffenest.
  • Straeon fideo dyddiol o’r gyfrol i ddysgwyr Agor y Drws.
  • Podlediad gyda’r awdur Manon Steffan Ros a’r ddysgwraig, Gosia Rutecka.
  • Sgwrs fideo rhwng y storiwraig, Fiona Collins, cyn enillydd Dysgwr y Flwyddyn, a’r cyflwynydd, Nia Parry.
  • Erthyglau dyddiol ar gyfer dysgwyr ar Golwg 360.
  • Eitem gyda dysgwyr yn trafod llyfrau ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru am 9.00pm ar Ddydd Llun, 8 Mawrth.
  • Fideos byrion gyda Casi Wyn, Meilir Ioan, Rhys Iorwerth a Caryl Lewis yn sôn am eu hoff lyfrau.

RHANNWCH