1) Dyfais a Phorwr:
Mae AM wedi’i adeiladu i fod yn hygyrch ar draws pob dyfais a phorwr. Fel canllaw, dyma rai o’r gofynion sylfaenol a argymhellir –
App
IOS – v10+
Android – v5+
Gwefan
Pob un fersiwn diweddar o Chrome, Safari, Firefox.
2) Gwylio digwyddiadau wedi eu tocynnu ar AM:
Bydd angen proffil defnyddiwr arnoch (proses syml drwy e-bost) ar AM i wylio cynnwys wedi’i docynnu. Gallwch gofrestru unrhywbryd yma. Gallwch gadarnhau eich mynediad i’r cynnwys unrhywbryd cyn y digwyddiad. Bydd mynediad yn cael ei roi i chi ar ddyddiad ac amser cychwynnol y digwyddiad drwy’r linc yn nerbynneb y tocyn a phan fyddwch yn logio mewn i AM yn defnyddio eich e-bost a chyfrinair eich proffil defnyddiwr. Os ydych yn anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ail-osod yma.
3) Gwylio cynnwys fideo ar AM:
Mae AM yn arddangos cynnwys sianeli o sawl platfform (yn cynnwys Youtube a Vimeo). Gellir gweld gofynion sylfaenol pob platfform yma :
Gellir gwylio’r cynnwys ar ffôn, dabled neu borwr we. Gellir hefyd wylio’r cynnwys drwy eich Smart TV – mae’r dewis hwn yn ddibynnol ar y cynnwys a sut y gwylir eich cynnwys o’r we ar y teledu ond gellir ei wneud drwy wifren HDMI, Apple TV, Airplay a Google Chromecast
4) Datrys Problemau:
Rhai pethau i’w gwirio os cewch broblem yn gwylio’r cynnwys:
1. Sicrhewch fod eich systemau gweithredol wedi’u diweddaru (fel soniwyd uchod)
2. Os ydych yn defnyddio AirPlay, ceisiwch gysylltu o iPhone neu iPad yn hytrach na’ macbook
3. Ceisiwch ail-lwytho’r dudalen
4. Os yw’r cynnwys yn llwytho neu’n gwrthod chwarae, efallai mai cyflymder eich rhyngrwyd sydd ar fai. Gallwch ei fesur yma . Ar y cyfan, i ffrydio rhan fwyaf o fideos mewn diffiniad safonol, mae’n rhaid i gyflymder y rhyngrwyd fod o leiaf 3 Mbps. Mae angen o leiaf 25 Mbps i ffrydio fideo 4K ar eich cyfrifiadur neu ddyfais Ultra HD
** Os ydych chi’n cael problem wrth gael mynediad i gynnwys neu wrth gofrestru ag AM, ebostiwch help@pyst.net**