Mae’r ffotograffydd 26 oed yn creu ffilmiau byrion sy’n cael eu gwylio gan filoedd ac mae wedi ennill gwobr am ei waith. Yn wreiddiol o Benysarn ym Môn, mae yn byw yn Grangetown yn y brifddinas…
Sut wnaethoch chi gychwyn gwneud ffilmiau?
Es i i wneud cwrs Celf Sylfaen yn Coleg Menai, Bangor, yn gwneud llwyth o bethau fel peintio a tecstiliau a media… a wnes i ddisgyn mewn cariad efo gallu dweud stori trwy’r camera, ond yn yr edit fwy na dim. Roeddwn i wrth fy modd yn eistedd yna drwy’r dydd yn gwneud ffilms ar y cyfrifiadur.
Beth oedd eich ffilm gynta’ ar YouTube?
Wnes i fideo bach am addasu fy skateboard, a’r oll oeddwn i wedi’i wneud oedd tynnu’r olwynion i ffwrdd, a’i baentio fo – ac mi gafodd y fideo tua 300,000 o views.
Roedd o reit mindblowing ar y pryd!
Erbyn hyn mae gen i tua 35 o fideos ar sianel YouTube fi – Aledspicture.
Sut beth yw eich ffilm Grief, sydd wedi ennill gwobr?
Mae hi’n ffilm reit dywyll am golled, ac wedi cael ei hysbrydoli ga y profiad o golli fy Nain. Roedd o reit therapiwtig i’w wneud o, ac fe gafodd o reception reit dda.
Mi gafodd ei dangos mewn sawl gŵyl ffilm, gan gynnwys yn Efrog Newydd ac ennill gwobr yng Ngŵyl Ffilm SeeMôr Môn llynedd.
Mae’r ffilm ar fy sianel YouTube i.