Barn ar Faterion y Mis
Bu’n gyfnod hir o ddisgwyl cyn i’r cyhoeddiad cyntaf ddod ddechrau mis Chwefror ein bod ni, yr elusen amgylcheddol Tir Natur, wedi prynu dros fil o erwau o dir yng Nghwm Doethïe yn yr Elenydd yng Ngheredigion i’w ailwylltio. Wrth i’r cyhoeddiad ddod, roeddem ar bigau’r drain yn gobeithio – yn gweddïo – am i’r newyddion gael derbyniad cadarnhaol.
Ar bigau’r drain, am ein bod ni’n ymwybodol fod ymdrechion yn y gorffennol i ailwylltio rhannau o’r dirwedd wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn ac, o ganlyniad, wedi methu’n ddifrifol. Roedd cyd-destun ailwylltio yng Nghymru wedi’i lywio o’r cychwyn cyntaf gan deimlad ei fod yn gysyniad estron, yn cael ei wthio gan bobl o’r tu allan nad oeddent, yn ôl pob golwg, yn ymwybodol fod yna gymdeithas Gymreig â hen hanes yng nghefn gwlad Cymru. Terra nullius unwaith eto yng Nghymru annwyl.
Ond i ni roedd yn derm roedd yn werth dal ein gafael arno. Roedd llwyddiant prosiectau ailwylltio sylweddol mewn rhannau eraill o Brydain yn ysbrydoliaeth, yn cynnwys ystâd adnabyddus Knepp, sy’n destun y llyfr a’r ffilm Wilding, a Glen Affric yn Ucheldiroedd yr Alban. Roedd teimlad fod yna gyfle i Gymru.
Roedd difrifoldeb sefyllfa natur yng Nghymru yn anodd ei anwybyddu, gyda thranc cynifer o’n rhywogaethau ar y gorwel. Un enghraifft a gafodd sylw yn ddiweddar yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025 (Cyfoeth Naturiol Cymru) ydi’r eog, a allai ddiflannu o’n gwlad yn y degawdau nesaf. Yn hanes Culhwch ac Olwen, Eog Llyn Llyw ydi’r hynaf oll o Anifeiliaid Hynaf Cymru. Nid dim ond colli rhywogaeth ydi hyn. Mae’n golli treftadaeth.
Mae angen syniadau newydd.
Mae syniadau newydd wedi dod i Gymru ar hyd yr oesoedd, fel rheol o’r dwyrain, weithiau drwy ormes. Ac weithiau mae syniadau newydd wedi ymsefydlu ac wedi dod i deimlo’n gwbl gynhenid – Cristnogaeth, yr afallen, ffermio defaid. Fel y dywedodd Eurig Salisbury yn ddiweddar (ar wefan Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru) bu Urdd y Sistersiaid yn llwyddiannus iawn yn cyflwyno dulliau amaethu newydd o’r cyfandir i ucheldir canolbarth Cymru, a hynny nid am iddynt ormesu, ond drwy gydweithio â’r diwylliant lleol. ‘Impio syniadau newydd ar hen bren’ yw ei drosiad hyfryd.
Ein nod yn Tir Natur ydi creu lle i Gymru roi cynnig ar ailwylltio o’r tu mewn, wedi’i siapio gan y cyd-destun Cymreig a chyda chymunedau lleol. Un elfen o hynny ydi’r iaith, yn arbennig mewn cymunedau gwledig, lle mae colli swyddi yn bygwth hyfywedd y Gymraeg. Yng ngwaith Tir Natur, mae angen pobl, a byddwn yn cyflogi a chontractio pobl leol ar bob cyfle. Mae angen pobl i ofalu am anifeiliaid pori, codi a chynnal ffensys, gwneud gwaith adfer mawndir, a chynnal arolygon o iechyd cynefinoedd. Mae angen pobl i gyd-drafod â’r gymuned, ac mae angen pobl i ymweld a chyfrannu, ac i ddathlu hanes a threftadaeth y tir, gan helpu’r rhai nad ydynt yn medru’r iaith i werthfawrogi’r cyfoeth dan ein traed ac ar ein gwefusau.
Mae angen gwneud hyn oll gan ymdrechu i gynnal deialog barchus a chadarnhaol. Prosiect arddangos ydi gwaith Tir Natur yng Nghwm Doethïe, a gall gyfrannu at ddealltwriaeth o sut olwg allai fod ar y dirwedd yn ucheldir canolbarth Cymru o wneud pethau’n wahanol, a pha effaith allai hynny’i chael ar iechyd cynefinoedd, hyfywedd ein bywyd gwyllt a’n cymunedau gwledig. Yn Tir Natur, ry’n ni’n grediniol y bydd yn agoriad llygad ac yn ysbrydoliaeth. Amser a ddengys, ond ry’n ni’n awyddus i gyd-drafod ac i hynny helpu i siapio ein cynlluniau. Mae angen i gymunedau lleol a chymdogion, ffermwyr, arbenigwyr cadwraeth, gwleidyddion a phawb sydd am weld natur yng Nghymru yn ffynnu, ddod at ei gilydd i fod yn rhan o’r drafodaeth.
Elen Robert
Mae Dr Elen Robert yn Swyddog y Gymraeg a Chydlynydd Ymgysylltu Cymunedol gyda Tir Natur.