New South Wales
Tachwedd 2019
Mi ddown nhw’n ôl ataf weithiau a minnau heb fod yn chwilio amdanyn nhw. Dim isio dod o hyd i ddim, dim isio cofio fel oedd hi bryd hynny pan oedd pob dim yn brifo o berffeithrwydd. Ond tydi atgofion yn malio dim am sob stories felly. Maen nhw’n fain ar drugaredd yn aml.
Ac maen nhw’n dod i ganlyn rhyw arogl cyfarwydd; arogl sydd wedi’i ddowcio mewn cyfnod pell, pell yn ôl. Mi agorodd ’na rywun bacad o Sherbet Lemons yma gynnau ac mi o’n i’n hogyn bach bochgoch eto, a fy awch yn glafoerio’n un afon i lawr fy ngwddw wrth imi ymestyn fy nhair troedfedd am y jar fferins ar dop y cwpwrdd mawr adra. Bachu llond dyrniad a’i heglu hi allan cyn i Mam fy nal i’n hel fy mol mor agos at amsar swpar. Liquorice Allsorts, Mint Imperials, Rhubarb & Custards. Go lew yn unig. Siom yn gwingo y tu mewn imi o sylweddoli ei bod hi’n dlawd arnaf am Sherbet Lemons. Roedd eu powdr a’u siafins nhw’n drwch dros y fferins eraill, ond doedd hynny ddim ’run fath. Y diffyg oedd fy mhenyd am fod yn hogyn drwg a dwyn y fferins yn y lle cyntaf.
Ac mae’r arogl hwnnw wedi sticio wedyn. Uwchlaw bob dim, yr arogl ydi’r gora gen i.
Oedd y gora gen i.
Ac mi oedd i bob stafell ei harogl, a’r arogleuon hynny’n rhoi mwy o gymeriad i’r stafelloedd na wnaeth ’run dodrefnyn erioed. Mi o’n i’n dotio at hynny gan nad oedden nhw’n rhai o ryw diffuser neu’i gilydd – wnaethon ni mo’u prynu nhw’n unlle. Ffeindio’u ffyrdd i mewn i flerwch cartrefol ein byw wnaethon nhw, a phenderfynu glynu wrth bob dim. Gwrthod gadael. Mi o’n i’n edmygu eu gwytnwch nhw.
Fel ddeudis i, Sherbet Lemons oedd arogl y parlwr cefn, ond gwahanol wedyn oedd arogl y parlwr gora. Mi oedd hwnnw’n arogli fel glas, a’i arogl o mor gryf nes imi fedru ei flasu ar flaen fy nhafod. Alla i’m yn fy myw â’i esbonio fo mewn unrhyw ffordd arall; mi oedd o’n arogli fel diwrnod cyntaf hafau fy mhlentyndod, yn drybola o ryddid.
Ond yn goron ar bob arogl, roedd y gegin. Dyma lle’r oedd Mam yn tywallt ei chariad i gyd i mewn i bob pryd, pwdin a chacen a rhoi rhwydd hynt i’w arogleuon bryfocio’i gilydd o’i chwmpas wedyn. Arogl cig a llysieuach yn stiwio’n ara deg ar y pentan, pwdin bara’n trochi mewn llaeth enwyn yn y popty gwaelod, a chacen blât yn brownio yn y popty top. Dyna sut arogl oedd i gariad Mam, a doedd ’na ddim oll yn cymharu ag o.
*
Roedden ni’n medru ei synhwyro fo’n dod, fel y mae gwythïen yn synhwyro min blaen y nodwydd. Ac fel y wythïen, mi oedd yn rhaid inni symud yn sydyn. Mi aeth Mam am y potyn pres, Dad i hel chydig o’n dillad ynghyd, a finnau i arogli. Symud o un stafell i’r llall, a theimlo gwytnwch yr arogleuon yn gwisgo’n denau wrth i’r mwg ddod. Mae arogl mwg yn drech na bob dim.
Pam aros i weld adra’n llosgi, wn i ddim. Mi oedd y tân fel tasa fo’n fyw, yn gloddesta ar gnawd y tŷ ac yn gadael dim mwy na carcas ar ei ôl. Sgram go iawn. Poeri lludw hwnt ac yma wedyn, cyn rhedeg nerth ei begla am y cartref nesa. Ni’n tri yn syllu o bell, ac yn fud. Syllu ar ddiwedd y byd.
Pan fuodd Jona, fy mhysgodyn aur, farw, mi ddeudodd ’na hen lanc oedd yn byw lawr lôn wrtha i mai pris cael yw colli. Do’n i ddim yn dallt ystyr y geiriau bryd hynny, ond dwi’n cofio meddwl mai’r rheiny oedd y geiriau mwya trist ddeudwyd erioed. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, a dyma sylweddoli mai’r geiriau hynny ydi ’ngwirionedd i heddiw. A chan bod y colli’n brifo cymaint, dwi’n meddwl weithiau y basa hi wedi bod yn gleniach peidio â chael o gwbl.
A cholli bob dim hefyd. Nid jyst y cwpwrdd mawr, y gadair siglo a’r piano, ond yr arwyddion ein bod ni wedi byw yno. Y marciau pensil ar y wal wrth y drws cefn a oedd yn dynodi’r newid yn fy nhaldra am bob blwydd o’m hoedran. Yr hwrlibwrli o sgwigls y tu ôl i’r cwpwrdd mawr ar ôl imi gael gafael ar focs creons yn deirblwydd oed. Y staen pinc wrth droed y soffa wedi imi droi Ribena poeth a mêl pan ges i’r dolur gwddw ofnadwy hwnnw. Colli’r cwbl lot.
‘Gymeri di Sherbet Lemon?’
Ond yr arogleuon yn aros, yn megino fflam yr atgofion i gyd. Yn felltith ac yn fendith, ac yn dannod i mi’n dyner fod drws tuag Aberhenfelen yn gyndyn o gloi.
‘Gwnaf. Diolch.’