Casper the friendly ghost – dos i ganu! Mae ’na ysbryd newydd ar y sîn a’i enw fo ’di Ynyr. Y broblem fawr ydi, mae Ynyr druan yn rhy ofnus i godi braw ar unrhyw un, y cradur! Welsoch chi bâr o lygaid mor ciwt ar ysbryd ’rioed? Maen nhw gwneud i chi fod isio gafael ynddo a rhoi cwtsh mawr iddo fo, ond wrth gwrs, tasech chi’n trio gwneud hynny mi fysa chi’n syrthio syth drwyddo!
Plot syml y stori yw hyn: Mae Ynyr yn dod o linach sy’n enwog iawn am ddychryn pobl. Yn ôl y sôn, mae o’n perthyn i’r Ladi Wen a’r Lleian Ddu! Unrhyw gysylltiad â Glan Llyn tybed?
Yn anffodus, oherwydd ei anallu i ddychryn unrhyw beth, mae Ynyr druan reit down in the dumps. Mae o fwy neu lai wedi rhoi’r ffidil yn y to, ac mae’n datgan yn drist “Fedra i ddim.” Dyma dri gair dwi’n casáu eu clywed, ond yn aml iawn rydym ni’n tueddu i feddwl fel hyn os yw rhywbeth yn anodd ac yn rhoi give up cyn trio.
Er y protestio, gyda help ei fam mae’r ysbryd ifanc yn rhoi cynnig ar ddychryn pobl ac anifeiliaid yr ardal… ond tydi pethau ddim cweit yn mynd according to plan. Fedrith Ynyr druan ddim hyd yn oed dychryn Pws!
Neges graidd y llyfr yw dyfalbarhad. Dal ati ac mi wnei di lwyddo yw neges y fam bob tro. Drwy ddal ati mae Ynyr yn dysgu gwers BW-ysig iawn ac erbyn diwedd y llyfr, mae o’n giamstar ar godi ofn. Mae hon yn stori fydd yn addas i blant ifanc drwy’r flwyddyn, nid jest ar gyfer Calan Gaeaf.
Dywedodd Rhian Cadwaladr, yr awdur: “Roeddwn i wedi cael ar ddeall gan athrawon bwysigrwydd annog plant i beidio torri’u calonnau pan fo nhw’n gweld unrhyw waith yn anodd wrth ei gychwyn ac i fod yn barod i ddyfalbarhau er mwyn llwyddo.”
Mae stori Rhian yn un bositif, annwyl a chalonogol ac mae arlunwaith ei merch, Leri Tecwyn, yn mynd â’r llyfr i’r lefel nesaf. Yn wir, mae’r gwaith celf yn hyfryd, a fyddai’r llyfr ddim yr un fath heb ddarluniau Leri. Dyma enghraifft wych o lun a geiriau’n asio’n berffaith.
Mae’r llyfr ar gael rŵan yn eich siopau lleol am £6.50 – amseru perffaith ar gyfer Calan Gaeaf. Ac mi fydd Ynyr yn ymddangos eto yn ôl pob sôn…