Cartref digidol diwylliant Cymru.

Adolygiad: Y Dyn Dweud Drefn yn yr Ardd – Lleucu Fflur Lynch

Llenyddiaeth

LLYFR Y MIS I BLANT IONAWR 2021
Lluniau: Gwen Millward
Cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch

Dwi wirioneddol yn licio’r gyfres fach light-hearted yma. Mi oeddwn i’n falch o weld fod ’na ail lyfr ar y gweill a bod Lleucu a Gwen wedi bod yn brysur yn sgwennu ac yn darlunio er mwyn creu Y Dyn Dweud Drefn Yn Yr Ardd. Mae’r llyfr wedi cychwyn 2021 mewn steil ac wedi’i ddewis fel Llyfr y Mis i blant ar gyfer mis Ionawr.

Mae’r llyfr pocket-sized yn faint bach handi ar gyfer mynd â fo efo chi, a gyda 68 o dudalennau, mae o’n llyfr reit sylweddol, felly mi ydach chi’n cael value for money yn sicr.

Wrth ddarllen am y Dyn Dweud Drefn, caf fy atgoffa o gymeriad surbwch tebyg o lyfr cerddi o’r gyfres Llyfrau Lloerig, Briwsion yn y Clustiau – llyfr roeddwn i’n mwynhau ei ddarllen pan oeddwn i’n yr ysgol gynradd. Yn debyg iawn i’r Dyn Dweud Drefn, roedd Mistar Byrbwyll hefyd yn cael trafferth gyda’i dymer weithiau!

Yndi, mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei ôl, ac er ei fod o reit fodlon ei fyd ar ddiwedd y llyfr cyntaf, mae’n amlwg fod rhywbeth wedi cynhyrfu’r dyfroedd – mae o’n dwrdio’n dragwyddol unwaith eto!

Tro yma, mae o wedi mentro i’r ardd. Does yna neb arall o gwbl yn cael mynd i’r ardd, dim ond y Dyn Dweud Drefn. Dydi o ddim yn cael llawer o lwc yn yr ardd a dweud y gwir, ac ar ôl clywed yr holl ddwrdio, daw ei gyfaill ffyddlon a hynod hoffus – Ci Bach – i weld beth ydi achos yr holl weiddi. Chware teg i Ci Bach, mae o’n profi ei fod yn un handi iawn i’w gael yn yr ardd – ac mae o’n gallach na’i berchennog yn aml iawn! Ond er gwaetha’r ffaith fod y Ci Bach yn helpu i ddyfrio’r blodau, cael ffrae mae o gan y Dyn Dweud Drefn, a chael ei hel yn ôl i’r tŷ. Bechod. Jest sbïwch ar y llygaid mawr trist ’na ar dudalen 26!

Mae tantro’r Dyn Dweud Drefn yn ddoniol iawn, yn enwedig am mai fo blannodd y blodau’n rhy bell, fo benderfynodd blannu tatws, a fo aeth i gysgu o dan goeden afalau. Mi welwch chi hynny’n aml efo pobl flin – does yna fyth fai arnyn nhw!

Mae ’na dipyn o’r Dyn Dweud Drefn ynon ni gyd weithia, ’does?

Unwaith eto, mae lluniau Gwen Millward yn rhai hoffus, annwyl ac yn hynod o ddel. Sbïwch lliwgar ydi’r blodau! Mae’r llyfr hefyd wedi’i osod yn dda iawn – mae’r testun wedi’i rannu’n gyfartal, sy’n golygu nad oes gormod o sgwennu ar y tudalennau.

Ar ôl diwrnod hir o ddweud y drefn (ew, mae bod yn flin yn ymdrech dydi) mae o’n pendwmpian yn ei gadair gyda gwên ar ei wyneb o’r diwedd – ond am ba hyd tybed?

RHANNWCH