Cartref digidol diwylliant Cymru.

Adolygiad: Tu ôl i’r awyr -Megan Hunter

Llenyddiaeth

Pob blwyddyn fel rheol, mae ’na un llyfr sy’n creu argraff – y llyfr mae pawb yn siarad amdano fo. Rhyw ddwy flynedd yn ôl, Llyfr Glas Nebo oedd o, a ’leni, Tu ôl i’r awyr ydi’r llyfr. Be’ bynnag yw eich barn am y llyfr, fedrwch chi ddim dadlau nad ydi o wedi creu argraff. Mae siarad mawr wedi bod amdano ar y cyfryngau cymdeithasol ac fe ddaw’n amlwg fod y llyfr wedi cael effaith ar nifer fawr o bobl, a bod ei ddarllen wedi bod yn brofiad digon ysgytwol, sydd wedi cymell pobl i fod isio mynegi eu sylwadau ar y we. Mae pawb eisiau ei ddarllen, a mae pawb eisiau dweud eu bod nhw wedi ei ddarllen. O safbwynt adolygwr, mae’n grêt fod ‘na fwrlwm am lenyddiaeth Cymraeg.

Yn ystod y lansiad rhithiol fis Tachwedd, dyma ddywedodd Marged Tudur am y nofel:

“Ma ’na lyfra weithia sy’n aros efo chi yn fwy na’r lleill, ma nhw’n newid eich ffordd chi o sbïo ar y byd ac ar wahanol betha. Ma nhw’n llyfra sy’n dod yn rhan ohonoch chi neu mae ’na gymeriada yn y llyfr da chi isio bod yn ffrindia hefo nhw neu falle bod nhw wedi dod yn ffrindia i chi. Mae ’na lyfra neith wastad aros yng nghanol symudiadau bywyd a heb amheuaeth, mae Tu ôl i’r awyr yn un o’r nofelau ysgubol, dirdynnol, gwefreiddiol yna. Mi wnaeth hi fy nharo i oddi ar fy echel ac yn syml, mae hi wedi mynd i rywle dwfn tu mewn i fy nghalon i ac mae hi wedi aros yna. Alla i ddim canmol y nofel yma ddigon a dwi’n gwbl mindblown o allu Megan a’i thalent aruthrol. Awdur cwbl, cwbl arbennig.”

Gwyliwch y lansiad yn ei gyfanrwydd yma ar sianel AM gwasg Y Lolfa

Mae gan yr awdur lais ffres ac mae ganddi ddawn dweud gwreiddiol sy’n ffraeth iawn ar adegau ac yn ddwys iawn dro arall – ond bob amser yn dal ein sylw. Daw’r cwbl at ei gilydd i gynnig profiad darllen pwerus a chwbl unigryw yn y Gymraeg.

Mae’r cymeriadau yn gwbl gredadwy, a’u teimladau a’u hemosiynau amrwd yn llawer mwy na geiriau ar bapur. Llwydda Megan i dreiddio i feddyliau’r cymeriadau a chyflwyno rhai o leisiau pobl ifanc Cymru heddiw yn effeithiol dros ben. Defnyddia ddull gwreiddiol iawn o gofnodi meddyliau Anest, sy’n llafar tu hwnt ac yn diystyru unrhyw atalnodi, ond sy’n gynrychiadol o sut mae llawer o bobl yn siarad o ddydd i ddydd heddiw, yn adlewyrchu’r iaith a ddefnyddir ar-lein ac ar ein ffonau symudol, ac hefyd yn cyfleu’r ffaith fod yr holl feddyliau yma’n gwibio trwy feddwl Anest yn ddi-stop. Mae’n effeithiol iawn ond reit intense ar yr un pryd, ac mae’n bosib na fydd y steil at ddant pawb.

Iechyd meddwl Anest a Deian yw prif ganolbwynt y nofel, ond caiff nifer o themâu eraill eu trafod hefyd fel cyfeillgarwch a chariad. Profa Deian ac Anest heriau ac anawsterau tebyg, ond eto, mewn ffyrdd gwahanol iawn i’w gilydd. Teimla’r ddau nad ydyn nhw’n ddigon da, ac nad ydyn nhw’n perthyn i’r un byd â phawb arall – ond mae eu hoffter o gelf a cherddoriaeth yn eu huno ac maen nhw’n canfod lloches yng nghwmni ei gilydd.

Iechyd meddwl sydd wrth graidd y stori, ond dwi’n meddwl mai llwyddiant y nofel yw nad ydi hi’n anghofio am y bobl sydd y tu ôl i’r salwch meddwl. Caiff gwahanol gyflyrau fel gor bryder ac iselder eu trafod wrth gwrs, ond y prif ffocws ydi’r unigolion, eu meddyliau nhw, a sut maen nhw’n ceisio ymdopi a goresgyn yr heriau sy’n codi wrth fyw efo salwch meddwl.

I feddwl fod ’na bandemig, mi fuodd 2020 yn bumper year ar gyfer cyhoeddi llyfrau o safon. Mi fuodd ‘na dwf yn y nifer o lyfrau crossover fiction a gafodd eu cyhoeddi hefyd, sef llyfrau ar gyfer oedolion sydd hefyd yn addas ar gyfer oedolion ifanc. Dwi’n siŵr y bydd y ‘buzz’ sydd wedi bod am Tu ôl i’r awyr yn golygu y bydd pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu denu at y llyfr. Oherwydd hynny, dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn nodi fod y llyfr yn cynnwys themâu anodd a dwys iawn, a all fod yn triggering ac a all beri gofid i rai darllenwyr. Tydi rhywun ddim yn cael darlun clir iawn o hynny o’r broliant, yn fy marn i. Fasa ni (Sôn am Lyfra) ddim yn argymell y llyfr ar gyfer cynulleidfa sydd o dan un ar bymtheg ar y cyfan gan fod y llyfr yn trafod hunan laddiad a hunan niweidio. Ond wrth gwrs, cydnabyddwn mai dewis personol yw hyn ac mae gan bobl farn gwahanol ar gyfer beth sy’n addas i ba oedran.

RHANNWCH