Y gyfres yn gyffredinol
Arloesol. Authentic. Dim ond rhai o’r geiriau dwi’n eu cysylltu â’r prosiect cyffrous yma. Hyd y gwn i, does dim byd o’i fath wedi cael ei wneud yn y Gymraeg, ac mae’n arwain y ffordd ar gyfer sut y dylid cyhoeddi a marchnata llyfrau i bobl ifanc wrth symud ymlaen. Rhaid clodfori’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol fel Insta a phlatfformau fel AM i rannu pethau fel rhestrau chwarae sy’n gysylltiedig â’r nofelau, gan fod hyn mor berthnasol i bobl ifanc yn 2021 (dwi’n gwrando ar Adwaith/Fleetwood Mac wrth sgwennu’r adolygiad ’ma).
Babi Elgan Rhys yw’r gyfres, ac mae’n cynnwys 5 nofel unigryw am 5 person ifanc arbennig iawn. Yr hyn sydd wirioneddol yn gyffrous am y gyfres, fodd bynnag, yw bod awduron cyhoeddedig, profiadol wedi cyd-weithio a chyd ysgrifennu’r nofelau gyda phobl ifanc ac awduron newydd y dyfodol. Am syniad da, i gael awduron ifanc Cymru yn meithrin a mentora’r genhedlaeth nesaf o awduron ifanc. Drwy gydweithio yn y fath fodd, ’da ni’n sicrhau bod y straeon yn onest ac yn genuine, gan gyflwyno materion a phrofiadau go iawn mewn ffordd real a chredadwy (yn hytrach na chael awduron yn ysgrifennu am bynciau nad oes ganddynt unrhyw brofiad ohonynt).
Mae’r elfen o gydweithio rhwng yr awduron yn codi’r gwaith i’r lefel nesaf. Rhaid cofio hefyd eu bod wedi llwyddo i wneud hyn o dan amgylchiadau heriol mewn pandemig a dylai hyn fod yn destun balchder i bawb fu ynghlwm â’r prosiect.