Genre: #ffuglen #arddegau #cynnar / #early #teen #fiction
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◎◎
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎
Iaith gref/language: ◉◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎
Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎
Oedran/Age: 11-14
CYMRAEG | WELSH
*English below | Saesneg isod
Adidas, Nike, Puma, Vans, Converse, Reebok, New Balance, Asics… does ’na drenyrs di-ri yn y byd… a does ’na neb wedi gwirioni gyda nhw mwy na phrif gymeriad y llyfr. Wrth ymweld yn rheolaidd â ’sgidlocyr, sef siop sgidiau mwyaf cŵl y dref, glafoeria am gael un par yn enwedig – yr Adidas ZX100000!
Dwi’n gallu dallt penbleth y prif gymeriad yn iawn, achos mi ydw i’n ffan fawr o drenyrs fy hun ac yn fussy dros ben wrth siopa am bâr newydd. Weithiau, gall gymryd misoedd i ffeindio’r pâr perffaith! Fy hoff rai ERIOED yw’r rhai sydd gen i ar hyn o bryd, sef y Nike Pegasus 36. Ella fod hyn dipyn bach yn sad ond dwi’n eu ‘llnau nhw’n fisol er mwyn eu cadw nhw’n edrych ar eu gorau. Dwi’m yn meddwl fod y car yn cael gymaint o sylw hyd yn oed!
Ta waeth – gan fy mod i’n dipyn bach o trainer geek fy hun, apeliodd y teitl a’r clawr yn syth. Roedd y clawr yn lliwgar ac iddo deimlad eithaf ‘retro.’
Yn y stori, dilynwn hynt a helynt y bachgen 13 oed, wrth iddo feddwl am ffyrdd dyfeisgar o hel y pres sydd ei angen i brynu’r pâr o drenyrs delfrydol. Does ganddo ddim gobaith o gael swydd, ac mae’r pres poced mor bitw, chaiff o byth mo’r trenyrs fel hyn. Gyda’i fêt gorau, Dyl, mae’r bechgyn yn dyfeisio cynllun er mwyn hel yr arian at ei gilydd. Cynllun fydd yn eu harwain at guddfan arbennig, yn y to uwchben swyddfa’r athrawon ymarfer corff! A wyddoch chi i ble mae’r twll yn y nenfwd yn arwain? ’Stafelloedd newid y genethod! O diar!
Mae ambell is-naratif wedi eu clymu i mewn i’r brif stori, ac mae ’na dipyn o ‘love story’ rhwng y prif gymeriad a Lowri, merch olygus sydd yn yr un flwyddyn ag o. Yn anffodus, mae ’na ddwylo blewog o gwmpas a chawn wybod bod ’na leidr yn yr ysgol! Sut fydd hyn yn effeithio ar gynlluniau ein prif gymeriad? Bydd yn rhaid i chi ddarllen i ffeindio allan!
Gall ennyn person ifanc i ddewis llyfr a’i ddarllen fod yn sialens ynddo’i hun yn aml iawn, ac os bydd darllenwr wedi cwblhau’r llyfr a’i fwynhau, yna gall yr awdur fod yn fodlon iawn â hynny. Job done. Dyma lyfr ysgafn iawn, sy’n osgoi bod yn rhy ddwys a phregethwrol, er bod yr awdur wedi llwyddo i gynnwys ambell i neges. Dyma lyfr gyda ’chydig o hiwmor y gallwn ei fwynhau heb ormod o waith meddwl– ac mae hyn reit brin yn y Gymraeg. Mae plant a phobl ifanc yn dweud fod llyfrau Cymraeg yn rhy serious, ac yn galw am fwy o hiwmor! (Gweler adroddiad Rosser, 2017). Dyma awdur sydd wedi gwrando ar y gynulleidfa, yn ôl pob tebyg. Mi wnes i fwynhau’r trivia am rai o’r prif frandiau (siŵr o ddod yn handi mewn pub quiz rhyw ddydd!) a’r ffaith fod sgidia velcro yn cael gymaint o stick! (mor wir!) Faswn i ddim wedi meiddio cael rhai velcro yn yr ysgol uwchradd!
Dyma stori reit wahanol, sy’n ychwanegu at yr arlwy o lyfrau a straeon amrywiol sy’n bwydo diet llenyddol cytbwys pobl ifanc. Ni cheir yma stori o hud a lledrith mewn arall fydoedd pell, ond yn hytrach, pwnc digon cyfarwydd a down-to-earth gydag iaith naturiol a thafodiaith Ogleddol. Athro uwchradd yw’r awdur, felly mae’n amlwg wedi treulio digon o amser yng nghwmni pobl ifanc i ddeall yr hyn sy’n apelio i ddarllenwyr ifanc – ond nid rhy ifanc. A fydd y nofel yn plesio? Cawn weld – mae’r grŵp oedran 12-14 yn un anodd i’w blesio!
Yn bersonol, doeddwn i ddim wedi rhagweld dilyniant i’r nofel, felly bydd hi’n ddiddorol gweld lle fydd y stori nesaf yn mynd. Bydd Kaiser y Trenyrs allan ddiwedd y flwyddyn yn ôl y sôn.