Genre: #ffuglen #hanesyddol / #historical #fiction
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◉
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◉◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◎◎◎◎◎
Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◉◉
Dydw i ddim yn gwybod os ydi hyn yn wir am y byd llyfrau Saesneg, ond dwi’n teimlo ein bod ni yng Nghymru wastad yn chwilio am y ‘big thing’ nesaf ym myd llyfrau plant ac yn llowcio teitlau newydd. I fod yn glir, nid lladd ar gyhoeddiadau newydd gwreiddiol ydw i – achos wrth gwrs fod angen teitlau fresh, newydd i ddenu darllenwyr y genhedlaeth nesaf. Ond, dwi yn teimlo ein bod ni weithiau yn anghofio’n rhy sydyn am y llyfrau da sydd wedi cael eu cyhoeddi’n barod. Mae ’na lyfrau gwych a gafodd eu cyhoeddi rhyw dair neu bedair blynedd yn ôl, sydd bellach yn angof neu sy’n cael fawr ddim sylw. A beth am y clasuron? Efallai fod hen lyfrau yn dyddio, ond ydi hyn yn rheswm digonol dros beidio eu darllen?
Mae’n debyg fod nifer o resymau pam fod llyfrau’n tueddu i gael eu hanghofio yng Nghymru, ac mae arian – neu ddiffyg arian – yn siŵr o fod yn un rheswm (fodd bynnag, stori arall ydi honno). Yn y cyfamser, y gobaith yw y bydd ‘Adolygiadau o’r Archif’ yn taflu goleuni ar ambell drysor sy’n cuddio ar eich silffoedd.