Cartref digidol diwylliant Cymru.

Adolygiad o “Heb Law Mam”, Heiddwen Tomos

Llenyddiaeth

“Y cydbwysedd perffaith o dristwch a hiwmor.”

Rhaid i mi gyfaddef, pan welais i’r clawr (sy’n effeithiol iawn btw) a’r strapline ‘Cemo fel caead bedd,’ doeddwn i ddim yn siŵr os byddai’r llyfr yn apelio. Ar ôl teimlo digon down efo’r holl fusnes lockdown a coronavirus, doeddwn i ddim awydd darllen rhywbeth oedd am wneud i mi deimlo’n fwy fflat. Wel – pa mor anghywir o’n i? Dwi’n gweld rŵan pam fod y Saeson yn dweud ‘Don’t judge a book by it’s cover,’ a dwi’n falch iawn mod i wedi ei ddarllen. Beth sy’n ddiddorol yw mai llyfr wedi ei anelu at y grŵp oedran 11-14 yw hwn OND fel dyn tipyn yn hŷn na’r gynulleidfa darged, mi wnes i ei fwynhau’n arw. Felly, peidiwch â gwneud y camgymeriad o feddwl mai llyfr i teenage girls yn unig yw hwn chwaith.

Prif gymeriad y stori yw Efa, merch ysgol sy’n gorfod wynebu pob math o sialensau arferol yr arddegau fel ffrindiau (neu ddiffyg), tad embarassing, bwlis, athrawon, ac wrth gwrs…y cariad cyntaf. Ar ben yr usuals, mae ei mam ar fin rhoi genedigaeth AC yn dioddef o gancr y fron. Waw – lot o s**t i un person orfod delio efo! Er fod na themâu dwys yma, mae ’na hiwmor drwyddo draw ac o ganlyniad fe gawn lyfr sy’n andros o hawdd ei ddarllen – mae’r jôcs yn balance-io’r darnau trist yn dda.

Mae’r llyfr yn llawn o ddarnau bach doniol a wnaeth i mi wenu. Ddim cweit ’run peth allan o gyd destun ond dyma rai o fy ffefrynnau:
Efa’n disgrifio’r giang o ferched fel “côr o lyfu tîn.”
Mam Efa’n sôn am Britney Spears a dim clem gan Efa pwy oedd hi!
Arsylwadau Efa o dalentau’r athro druan, Mr Llywelyn: “Roedd ei wersi yn draed moch fel arfer.”
Cai’n disgrifio Gwen a’i sterics fel “Shani Cyffyffl” (gair da… cyffyffl!)
Cracking one-liner i ddisgrifio Dylan (cradur) fel “Striflyn o grwt. Roedd mwy o gig mewn chicken nugget.”

Athrawes uwchradd ydi’r awdur, ac er mod i’n gwybod hyn gynt, roedd yn amlwg yn yr ysgrifennu. ‘Write what you know’, maen nhw’n ddweud yndê? Wel, mae hi’n nabod ei chynulleidfa i’r dim ac mae’r ddeialog, y sefyllfaoedd a’r cymeriadau on point! Mae’r stori’n darllen yn naturiol iawn – dim fel oedolyn yn trio ’sgwennu’n cŵl neu’n ceisio bod down with the kids.

Cafodd y rhamant slow burner rhwng Efa a Cai ei gyflwyno’n fedrus ac roedd yn hollol gredadwy- fel y ffordd mae hi’n gwirioni a chael gwefr jest o gyffwrdd blaen bys ag ef. Neu’r awkward moment wrth iddyn nhw “ffarwelio’n drwsgl” ar ôl bod am ‘wâc’ – yr hen sefyllfa to go in for the kiss or not? – ’da ni gyd wedi bod yna! Darnau fel hyn oedd yn mynd a fi’n syth yn ôl i fod yn bymtheg oed eto!

Roedd ‘na ddarnau o’r llyfr fyddai’n apelio at ddarllenwyr hŷn hefyd – daeth yr atgofion i gyd yn ôl ym mhennod y ffeit fawr yn y coridor. Gwenais wrth ddarllen am Mr Lewelyn druan yn “difaru iddo beidio ymddeol y llynedd,” neu’r pennaeth yn syllu’n “hiraethus drwy’r ffenestr.” (know the feeling!) Roedd y penodau yn yr hen ysgol gynradd gaeedig yn deimladwy iawn ac yn adlewyrchiad o’r tristwch ym mywyd Efa ar y pryd a’r hiraeth am ddyddiau gwell. Gwyddwn o brofiad nad oes does dim byd mwy digalon na ysgol yn cau; y dosbarthiadau gwag heb fwrlwm a sŵn plant…

Mae Efa druan yn cael hard time gan ei “ffrind” Gwen, sy’n bell o fod yn ffrind mewn gwirionedd. Hen sguthan o hogan ydi hi a bydd hon yn gymeriad y bydd sawl un ohonom yn ei gofio neu adnabod. Y person ’na sy’n smalio bod yn ffrind ond ’da chi’n gwybod nad ydynt yn gwneud daioni i chi. Gwyddai Efa hyn yn iawn ond fod yr angen am gwmni’n gryfach na bod ar ei phen ei hun. Mewn ffordd, ymdebyga Gwen i dyfiant y cancr – rhywbeth drwg oedd angen ei dorri ymaith… Os ydach chi am glywed hanes y super-b

RHANNWCH