Genre: llyfr lluniau, doniol / picture book, humour
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◎◎◎
Negeseuon positif/positive messages: ◉◎◎◎◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◉◉◉◉
Her darllen/reading difficulty: ◉◉◎◎◎
Dyfarniad/Rating: ★★★★★
Y llynedd, fe ddathlodd y llyfr yma 30 mlynedd ers ei gyhoeddi’n wreiddiol yn yr Almaeneg! Mae’n wir dweud fod y llyfr yma wedi datblygu i fod yn ‘ffenomenon’ ryngwladol ers hynny ac mae’r ffaith ei fod wedi gwerthu dros 3 miliwn o gopïau mewn peth wmbredd o ieithoedd yn destament i’w lwyddiant! O’r diwedd felly, yn 2020, mae ’na fersiwn Cymraeg i blant (ac oedolion) Cymru ei fwynhau hefyd!
Os ydach chi’n meddwl eich bod chi’n cael diwrnod drwg, meddyliwch am Mr Twrch druan, prif gymeriad y llyfr, sy’n deffro’n ddiseremoni i ddarganfod fod rhywun wedi gwneud pŵ – ia PŴ – ar ei ben! Mae llun y ‘pwpsyn’ ei hun mor realistig a bydd y disgrifiad o’r ‘selsigen hir, brown’ yn gwneud i chi rolio chwerthin a chrychu trwyn ar yr un pryd! ‘Delightfully disgusting’ yw’r disgrifiad Saesneg o’r llyfr – dwi’n cytuno! Mae lluniau pensil yr arlunydd, Wolf Erlbruch yn ychwanegu at yr hiwmor, ac mae maint y llyfr a’r ’sgwennu’n addas iawn ar gyfer darllen i gynulleidfa.
Pan oeddwn i’n dysgu, dwi’n cofio’r plant yn gwirioni’n lân efo un o lyfrau lleiaf adnabyddus Roald Dahl ‘The Vicar of Nibbleswicke’ oedd yn sôn am ficer dyslecsig yn ffeindio’i hun mewn trwbl gan ei fod yn dweud geiriau’r ffordd anghywir e.e. gweiddi ar y gynulleidfa i gymryd “SIP SIP!” ….get the picture?! Beth bynnag, roedd ’na hiwmor tounge-in-cheek yn perthyn i’r llyfr, ac roedd o’r math o lyfr fysa rhai oedolion (y pennaeth, debyg) ddim yn rhy hoff i’r plant fod yn ei ddarllen! Ond hwn oedd y llyfr roedden nhw’n gofyn am gael ei ddarllen fel trît! Y math o lyfr fyddai’n codi aeliau blaenoriaid! Wel – mae Bethan Gwanas wedi addasu llyfr tebyg. Llyfr cwbl ddiniwed ond un fydd plant yn meddwl sydd dipyn yn naughty, gan ei fod yn trafod un o’r tabŵs mawr, sef arferion toiled – dyma’r UNION fath o lyfr y bydd plant ifanc yn crefu i gael ei darllen!
Dw innau fel oedolyn call a chyfrifol (yn ôl y sôn) yn edrych ymlaen at y cyfle i roi test drive iawn iddo fel stori diwedd dydd y tro nesaf fydda i’n gwneud gwaith llanw. Mae’n debyg na fydd pob oedolyn yn cytuno, ond dwi’n jest gwybod y bysa’r plant yn mynd adre’n chwerthin ac yn cofio’r stori, ac ella, jest ella, yn gofyn am gael mynd i’r siop lyfrau Gymraeg ar y penwythnos…
Hanes Mr Twrch gawn ni yma, (o ia, does ’na ddim byd yn bod efo defnyddio’r gair ‘twrch’ Bethan – mae o’n siwtio’r stori dwi’n meddwl!) ac mae o reit cheesed off i ffeindio pwps ar ei ben! Dwi wrth fy modd gyda’i wyneb wrth iddo arsylwi ‘anrhegion’ yr anifeiliaid eraill! Mae’r dewis o eiriau ar gyfer ymateb Mr Twrch yn wych – “llawn edmygedd” wrth weld ymdrechion y ceffyl!
Mae’r llyfr yma’n tapio mewn i’r “toilet humour” sydd mor ddoniol ac apelgar i blant ifanc (ac oedolion ‘anaeddfed’) ac mae’r sylw manwl sy’n cael ei roi i’r pŵ yn siŵr o fod yn destun trafod mawr wrth ddarllen. Mae gan blant rhyw ddiddordeb naturiol mewn pŵ – I mean, come on, pwy sydd ddim wedi mynd â brigyn at sbloetsh o faw gwartheg pan oedden nhw’n iau?
Mae adroddiad Rosser (2017) yn datgan fod angen mwy o hiwmor mewn llyfrau Cymraeg i blant. Hiwmor naturiol sydd ddim yn teimlo’n artiffisial neu’n ffals. Y plant eu hunain sy’n galw am hyn – a gwae i unrhyw awdur neu gyhoeddwr fyddai’n meiddio anwybyddu barn ein darllenwyr ifanc! Mae plant yn gwybod yn iawn beth sy’n gwneud stori dda, credwch chi fi!
Roedd hi mor refreshing darllen stori fer oedd yn stori ddoniol a syml. Rhywbeth ysgafn i’w fwynhau heb negeseuon moesol preachy, heb gwestiynau athronyddol dwys, jest hwyl a sbri wrth sôn am pw-pw’s! I unrhyw un sy’n anghytuno – mi fydd y plantos yn ddigon call i wybod nad ydi dial drwy wneud busnes am ben rhywun yn dderbyniol go iawn!
Dwi’n falch fod tipyn o hanes y llyfr yno hefyd; doedd dim rhaid ei gynnwys, ond mae’n ddiddorol tu hwnt. Diolch Bethan Gwanas a Gwasg Gomer am gyhoeddi’r stori yma. Mwy o straeon doniol, quirky gwreiddiol yn y Gymraeg plîs… (neu rhai diddorol o dramor!)
O.N.
Mae darllen y llyfr newydd fy atgoffa o’r ‘Caganer’ o Gatalonia, sef ffigwr bychan o ddyn ar ei gwrcwd, wrthi’n gwneud ei fusnes, sy’n addurn Nadolig traddodiadol yn yr ardal! Difyr ’te!