Cartref digidol diwylliant Cymru.

Adolygiad o Filò gan Sian Melangell Dafydd

Llenyddiaeth

gan Morgan Owen

Dyma nofel am sut mae storïau yn llenwi bylchau’r byd, am storïo fel y reddf arbennig honno sy’n creu bydoedd newydd ac uno hen fydoedd. Ystyr filò yw ymgynnull er mwyn storïo neu chwedleua; bydd llinynnau’r storïau hynny yn ymgordeddu a chyd-blethu nes creu rhywbeth newydd bob tro. Fel y dywed adroddwr y nofel, Guido Fontana, am filò, maent yn trosgynnu’r byd diriaethol a hefyd y storïwr ei hun: ‘dyna ydi stori – byw tu mewn i stori rhywrai eraill. Vero?.’ Byw tu mewn i atgofion pobl eraill.

Yr hyn a gawn yma felly yw atgofion carcharor rhyfel o’r Eidal a ildiodd i’r Fyddin Brydeinig ym mrwydr El Alamein yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wrth iddo ef a’i gyd-filwyr gael eu trosglwyddo i Brydain wedyn, gwnânt synnwyr o’u halltudiaeth, eu darnio a’u hymddieithrio trwy ddod ynghyd i adrodd storïau am eu hen fywydau, y rhyfel, a’u taith i wlad anghyfiaith, gan geisio rhoi trefn ar eu sefyllfa gythryblus. Daw eu filò yn gyfrwng iddynt ddod i delerau â’r ansicrwydd, a hwythau’n waglaw ac ar ddisberod: ‘dim ond iaith oedd gen i ar gyfer disgrifio’r byd yn ei fanylder’. Pan ddaw Guido i Gymru i weithio mewn gwersyll carcharorion rhyfel, cymhlethir y darlun. Ar ôl treulio blynyddoedd yno, anodd yw gwybod i ba le y mae’n perthyn, ac mae Cymru’n treiddio i’r storïau, sef i graidd bywydau’r carcharorion, nes iddi ymgiprys â’u gorffennol nhw.

Adroddir hyn oll yn y person cyntaf, a’r geiriau’n llifo’n rhwydd fel petaem yn dilyn meddyliau uniongyrchol Guido. Nid oes strwythur yn yr ystyr gonfensiynol: y meddyliau a’u llif yw’r strwythur, ac mae’n osgeiddig iawn. Mae’r arddull ysgafn ac ystwyth yn llwyddo i gyfleu rhythm storïau i’r dim. Mae yna elfen weledigaethol iddi, a bron na ellid ei galw’n chwedlonol. Storïo – neu chwedleua – yw ei hanfod, wedi’r cyfan. Mae’r llinynnau’n estyn yn bell, ac yn cofleidio cymaint mwy na hanes carcharor yn yr Ail Ryfel Byd; yn wir, cawn gip arnom ni ein hunain, a Chymru yn gyffredinol, o gyfeiriad annisgwyl.

Brithir y nofel hon â geiriau Eidaleg, a geiriau Solighese, sef dialetto Guido, a hyfrydwch yw hynny. Nid ydynt yn tarfu ar y dweud, ond yn ei gyfoethogi: maent yn rhan bwysig o’r naratif. Un o nodweddion pennaf y nofel fentrus a swynol hon yw mor gelfydd y trinir geiriau. Ailddarllenais gynifer o frawddegau er mwyn llwyr werthfawrogi’r ysgrifennu. Dyma nofel arbennig.

Filò gan Sian Melangell Dafydd yw’n Llyfr Y Mis.

Mae SIOPAU LLYFRAU ar draws Cymru y cynnig gwasanaeth postio neu ymunwch â’n Cynllun Cefnogi Siopau Llyfrau ar www.gwales.com

RHANNWCH