Genre: llyfr lluniau, doniol / picture book, humour
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◎◎◎
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◉◉◉◎
Her darllen/reading difficulty: ◉◉◎◎◎
Dyfarniad/Rating: ★★★★☆
“Anodd tynnu cast o hen geffyl”
“Mae e’n cadw draenog yn ei boced”
“Prynu cath mewn cwd”
Ac fy ffefryn personol…
“Dio’m yn werth cnec mochyn coron!”
Mae’r iaith Gymraeg yn llawn dywediadau diddorol – nifer ohonynt yn cynnwys anifeiliaid. Mae ‘na ormodedd yn bodoli i un person eu cofio i gyd, ac mae’n bechod fod na ddim un cyfeiriadur sy’n eu casglu i gyd gydag esboniad. Byddai’n bechod petai’r dywediadau quirky yma’n diflannu. Dwi wrth fy modd gyda theitl y llyfr yma, ‘Ffwlbart Ffred: Drewi fel ffwlbart,’ am ddau reswm. Un, achos mae o’n tynnu sylw at ddywediad Cymraeg rhyfedd gan sicrhau fod y genhedlaeth nesaf yn ei chlywed. Yn ail, dyma i chi deitl bachog sy’n siŵr o apelio at blant ifanc. Teitl bachog – perffaith ar gyfer gwerthu llyfrau! Bydd o’n un o’r llyfrau “Maaaam, plîs gawn ni brynu hwnna?!” – gewch chi weld!
Mi fedra i feddwl am sawl bachgen bach ifanc (ac ambell i ferch!) fydd wrth eu bodd yn darllen am hanes y ffwlbart drewllyd ac mi fyddai’n postio fy nghopi draw at fy nghefndryd ar ôl mi orffen ‘sgwennu hwn!
Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae gan Ffred ffwlbart (polecat ydi hyn – oedd, roedd rhaid i mi Googleio!) ac mae’r creadur bach YN DREWI! Doedd o ddim, ond un bore mi ddechreuodd wynto!
Mae’r arogl ddrwg yn llenwi’r lle a chyn bo hir mae hyd yn oed Anti Gyrti drws nesa’n cwyno! Ar ôl derbyn ordors i llnau’r ffwlbart drewllyd, mae Ffred a’r creadur yn cael syniad glyfar. Cyn hir, mae’r pentref i gyd yn drewi i’r uchel nefoedd!
Mae llyfrau Cymraeg wedi datblygu cymaint ers oeddwn i’n blentyn, ac mae’r safon yn uchel iawn ac yn gwella o hyd. Mae gwasg Atebol wedi arwain y ffordd ers blynyddoedd wrth argraffu llyfrau o safon uchel. Dwi’n gwybod fod hyn braidd yn bedantig ond mae’r llyfr yn teimlo fel un o ansawdd da wrth afael ynddo. Mae hyd yn oed pethau bach fel y clawr matt efo darnau gloss yn gwneud gwahaniaeth.
Dwi’n adnabod arlunwaith Bethan Mai yn syth (dwi’n cofio’r steil o lyfrau cyfres Halibalŵ) ac mae nhw’n gweddu llyfr doniol i’r dim ac yn ychwanegu at yr hiwmor. Bonws am y llyfr yw ei fod ar ffurf mydr ac odl sy’n cyflwyno’r syniad o frawddegau rhythmig, cwpledi a synau i blant. Mae ‘na rhywbeth satisfying am ddarllen brawddeg sy’n odli does?
Mae’r awdur yn brofiadol iawn ym maes plant, ac yn gwybod yn iawn beth sy’n mynd i apelio at y gynulleidfa darged! Prin iawn yw’r plant sydd ddim yn mwynhau dipyn o toilet humour a sôn am ddrewdod ac ati! Dwi’n siŵr i mi brynu ambell stink bomb fy hun yn fy mhlentyndod! Does dim o’i le gyda ‘chydig o ddireidi diniwed wir!
Dwi’n falch o glywed mai cyfres fydd hon, nid one-off, felly bydd mwy ar y ffordd…