Genre: #dwyieithog #hanes #chwedlau / #bilingual #history #legend
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◉◉◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◉◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◎◎◎◎
Her darllen/reading difficulty: ◉◉◉◎◎
Dyfarniad/Rating: ★★★★★
(sydd ddim yn digwydd yn aml – doesn’t happen often!)
O’r diwedd mae gennym ni lyfr sy’n dangos fod llyfrau lluniau’n cŵl ac nid yn rhywbeth ar gyfer plant bach yn unig! Dwi wedi gwirioni gyda fersiwn Aidan Saunders o hen chwedl o’r Mabinogi, Stori Branwen. Mae’r stori ei hun yn rhan o hen hanes Celtaidd Cymru, ac yn un sydd wedi cael ei ddweud a’i ail ddweud dros y canrifoedd. Dwi’n meddwl mai hwn yw fy hoff fersiwn o’r stori sy’n bodoli mewn print ar hyn o bryd. Mae’r stori wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer cynulleidfa fodern ond nid yw wedi colli dim o hud a lledrith y stori wreiddiol.
Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn fy mygio ers tro. Pam fod pawb yn edrych i lawr ar lyfrau lluniau fel pethau plentynnaidd neu fabïaidd? Dwi’n 29 oed a dwi wedi mwynhau darllen llyfr sy’n byrlymu gydag arlunwaith atyniadol a thrawiadol. Mae’r printiau lliwgar mor syml, modern a refreshing ond eto, mae rhyw deimlad hynafol a hanesyddol iddynt hefyd, fel rhyw dapestri lliwgar sy’n cefnogi’r geiriau wrth adrodd y stori. Dwi’n dal i ddweud mai ‘keep it simple’ sy’n gweithio orau – mae’r lluniau cartwnaidd yn syml, ond yn hynod o effeithiol.
Cyn mynd at y stori, dwi isio sôn am y llyfr ei hun. Dwi wedi dweud o’r blaen, fod Atebol yn cynhyrchu llyfrau o safon uchel iawn (ac na, dydyn nhw ddim yn fy nhalu i ddweud hynny!) Mae maint a siâp tenau, hirsgwar y llyfr yn wahanol iawn i’r llyfrau eraill sydd ar gael. Bydd hwn yn sicr o sefyll allan ar silff lyfrau – a thybiwn bydd yn denu sylw nifer o lygaid ifanc. Mae angen pwysleisio fodd bynnag, er bod y llyfr yn edrych fel llyfr i blant bach Cyfnod Sylfaen, peidiwch â chael eich twyllo! Fyddwn i ddim yn argymell y llyfr yma i unrhyw un dan 7 oed am sawl rheswm.
Dwi mor falch fod y wasg wedi dewis creu llyfr lluniau dwyieithog, ond ar gyfer plant hŷn. Maen nhw’n hollol iawn i wneud hyn a dylai mwy o weisg fod yn gwneud yr un peth. Mae plant CA2 (Bl.3-6 neu 7-11 oed mewn geiriau eraill) YN MWYNHAU edrych ar luniau hefyd! (a phlant hynach fyth, mewn gwirionedd) Ydyn, maen nhw’n hoffi llyfrau lluniau – ond dydyn nhw ddim isio cael eu patronizeio chwaith! Fydd darllen y llyfr yma ddim fel darllen Sali Mali – mae ‘na ddigon o waith darllen ac mae o’n ddigon heriol hefyd. Mae Mererid Hopwood wedi gwneud job dda o gyfieithu’r geiriau Saesneg. Dwi’n falch fod ‘na ysgrifen Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr felly mi all blant sy’n darllen Cymraeg yn rhugl fwynhau’r llyfr, yn ogystal â dysgwyr neu’r rheiny sydd â rhieni di-Gymraeg. Mae’r ffaith fod y ddwy iaith yno yn gwneud y llyfr yn addas i gynulleidfa fwy. Cyfle gwych i unrhyw un ddysgu mwy am hanes cyfoethog chwedlonol Cymru.
Mae gen i gof o glywed stori Branwen yn yr ysgol, ond mewn gwirionedd roeddwn i wedi anghofio pa mor hollol nyts oedd o! Pwy ddaeth i fyny gyda rhai o’r syniadau? Roedd ganddyn nhw ufflwn o ddychymyg beth bynnag! (yndw, dwi’n cyfeirio at Branwen yn cael ei chosbi’n ddyddiol gan y cigydd gyda darn o ham! – what’s that all about?) Dyma stori sy’n cynnwys hud a lledrith, cewri, camdriniaeth ddomestig, brwydrau epig, miwtaleiddio, byddinoedd meirw, cariad, brad, twyll a marwolaeth. You name it – mae o yn stori Branwen! Mi fydd y llyfr yma’n boblogaidd gyda bechgyn a merched – ond – mae ganddo wir werth fel arf i geisio cael bechgyn sy’n amharod i ddarllen i fwynhau stori dda ac i ymddiddori mewn rhywbeth Cymraeg.
Oes, mae ‘na drais, lladd a chreulondeb yn stori Branwen – ond dyma’n union pam fydd plant ar dân eisiau ei ddarllen. Maen nhw’n licio’r math yma o beth a dwi’n siŵr fod nhw wedi gweld pethau gwaeth mewn operâu sebon a ffilmiau dyddiau yma!
Mi allaf argymell y llyfr yma’n llwyr i unrhyw un sy’n 7+ ac mae’n sicr yn llyfr y dylai ysgolion ystyried buddsoddi mewn copi -cyfleoedd dysgu di-ri. Un cwestiwn sydd gen i, tybed fydd yr awdur yn gallu esbonio i mi pam fod bochau tîn random soldier no.3 mewn golwg? Oedd hi’n ffasiwn i dorri tyllau bochau pen ôl mewn trowsus bryd hynny?! Bach o ventilation cyn dyddiau Air Conditioning tybed? Er nad oes gen i ateb pendant, mae’n ddiddorol beth bynnag ac yn siŵr o ennyn gigl neu ddau!
Roedd dewis stori Branwen yn un doeth ar gyfer rhoi spin ‘cŵl’ ar hanes a thraddodiadau Cymru a dwi’n gobeithio bydd mwy o’r Mabinogi yn cael triniaeth Aidan Saunders yn y dyfodol!