Cartref digidol diwylliant Cymru.

Adolygiad: Michewa a’r Mynydd – Sean Chambers (geiriau Cymraeg gan Manon Steffan Ros)

Llenyddiaeth

Atebol
Llyfr i blant dan 7

ARGRAFF CYNTAF

Ai dim ond fi sy’n gwirioni gyda llyfrau clawr caled? Mae ’na rai llyfrau sydd jest yn gweddu, na, yn haeddu bod mewn clawr caled, ac mae Michewa a’r Mynydd yn un o’r rheiny. Mae’n werth y gost ychwanegol YFMI er mwyn cael gafael a theimlo llyfr sylweddol, o ansawdd, sy’n bleser i’w ddarllen.

Mewn adroddiad pellgyrhaeddol gan Dr. Siwan Rosser yn 2017, roedd trafodaeth am yr angen i ehangu’r dewis o lyfrau sydd ar gael yn y Gymraeg, yn enwedig rhai sydd ag apêl ryngwladol. Dwi wir yn hoffi fod Sean wedi ’sgwennu llyfr sy’n mynd â ni i wlad bell, tu hwnt i Gymru – rhywbeth sy’n eithaf prin yn ein llenyddiaeth i blant. Dyma lyfr sy’n cyflwyno’r byd ehangach yn ogystal â chyflwyno tipyn o amrywiaeth diwylliannol e.e. traddodiadau baneri gweddïo Tibetaidd.

Y STORI

Stori am ferch fach benderfynol yw hon, sy’n byw mewn pentref gerllaw’r mynyddoedd. Os oeddech chi, fel fi, ddim yn siŵr sut i ynganu enw’r prif gymeriad, na phoener, achos mae ‘na ganllaw yn nhu blaen y llyfr. Mae ei thad yn gweithio fel tywyswr sy’n arwain ymwelwyr i fyny’r mynydd ac mae hi’n falch iawn ohono. Yn anffodus, chaiff Michewa ddim mynd efo’i thad i fyny’r mynydd nes y bydd hi’n “gryfach, ychydig yn fwy ac ychydig yn ddoethach,” ac mae’n rhaid iddi fodloni ar werthu te ar ochr y ffordd.

Buan iawn mae hi’n diflasu ar aros gartref, ac mae hi’n penderfynu dangos i’w thad ei bod hi’n ddigon cryf. Gan anwybyddu ei rybudd i aros adref, cychwynna’r ferch ar antur hudol i fyny i gopa’r mynydd peryclaf un – nad oes neb erioed wedi’i goncro! Fydd hi’n llwyddo i gyrraedd y copa a pha heriau fydd yn ei hwynebu ar y ffordd tybed?

Beth sy’n wych am y llyfr yw cymaint o wahanol themâu a theimladau sy’n cael eu trafod. Mae natur amwys y llyfr yn golygu y gallwch ddehongli’r stori mewn sawl ffordd wahanol ac mae’r cyfleoedd trafod yn niferus. Gall fod yn sbardun ar gyfer pob math o waith dilynol. Daearyddiaeth wnes i fel gradd, felly o’m safbwynt i, mae’n grêt fod geirfa sy’n ymwneud â’r mynyddoedd a’r tir yn cael eu cyflwyno.

Caiff emosiynau fel unigrwydd, edifeirwch a balchder eu trafod hefyd, ac mae awydd Michewa i lwyddo, a phrofi ei hun er gwaetha’r heriau yn glodwiw ac yn empowering. Hyd yn oed os nad ydych chi’n llwyddo’r tro cyntaf, rhaid dyfalbarhau. Un neges wnes i gymryd o’r llyfr yw pwysigrwydd trio bob amser ac anelu am y copa (er, efallai nad yw’n syniad da dringo mynyddoedd anferthol ar eich pen eich hun!).

Mae antur Michewa yn chwedlonol bron, a dydach chi byth yn siŵr ai breuddwyd yw’r cyfan ai peidio. Ydi’r mynydd wedi gofalu amdani a’i dychwelyd yn saff? Lle mae’r baneri gweddïo? Tybiaf y bydd y llyfr yn gadael darllenwyr gyda nifer o gwestiynau, a dwi’n credu fod hynny’n beth da. Does dim angen ateb pendant bob tro – yn sicr mae’n procio’r meddwl.

LLUNIAU SEAN

I gyd-fynd â’r stori, mae lluniau Sean yn fendigedig ac yn cyfleu’r antur a’r cyffro, ond hefyd y perygl sy’n perthyn i’r mynydd. Tydi hi’n wych meddwl fod ’na lefydd gwyllt a hudol ar ôl ar y ddaear sydd prin wedi eu cyffwrdd gan ddyn? Roedd hi’n fwriad gan yr awdur i chi allu dilyn y stori drwy’r lluniau, ac er bod y geiriau’n hyfryd, i mi, y lluniau yw sêr y sioe. Un o fy hoff luniau yw’r ‘anghenfil eira’ sy’n cysuro ac amddiffyn Michewa (doeddwn i ddim yn siŵr os oedd o’n gymeriad go iawn neu’n rhan o’i dychymyg – beth bynnag – mae o’n fy atgoffa o Marshmallow o ‘Frozen’ neu fersiwn mwy ciwt o’r Wampa o Star Wars: Empire Strikes Back!).

LLYFR ‘CHYDIG YN WAHANOL…

Rhywbeth sy’n unigryw am y llyfr yw mai yn y Saesneg y cafodd ei sgwennu gyntaf (ond dw i’n pwysleisio mai cyhoeddiad gwreiddiol Cymraeg ydi o). Dwi’n meddwl fod hyn yn wych, ac yn dangos beth sy’n bosib, hynny yw, troi’r syniad fod rhaid i chi siarad Cymraeg er mwyn cyhoeddi yn Gymraeg ar ei ben!

Mae hyn yn tynnu sylw at gyfle cyffrous iawn i dalentau newydd amrywiol gyhoeddi yn y Gymraeg. Dyma hefyd agor y drws i’r posibilrwydd o gydweithio gydag awduron eraill dros Ewrop a’r byd i greu llyfrau gwreiddiol Cymraeg newydd. Gellir dod a straeon rhyngwladol i Gymru, ond gellir hefyd fynd â straeon Cymraeg allan i’r byd. Dyma’r math o beth sy’n cael ei grybwyll mewn adroddiad newydd ‘Rhyngwladoli Profiadau Darllen Plant a Phobl Ifanc yn Gymraeg.’ Mae’r dyfodol yn llawn potensial am ddatblygiadau cyffrous i lenyddiaeth Gymraeg i blant…

Bachwch gopi o’r llyfr yma i’w drysori. Da iawn Atebol am fentro cyhoeddi llyfr sydd ’chydig bach yn wahanol, a llongyfarchiadau Sean ar greu dy lyfr cyntaf. Mwy plîs.

OEDDECH CHI’N GWYBOD?

Un o nodweddion newydd llyfrau Atebol, yw bod y geiriau Saesneg yng nghefn y llyfr er mwyn cynorthwyo rhieni di-Gymraeg. Dwi’n gwybod fod ‘na bobl sy’n anghytuno – ond dwi’n meddwl fod o’n syniad gwych – ac mae adborth ar Twitter hyd yma’n awgrymu fod nifer yn cytuno.

RHANNWCH