Enw llawn :Pryderi Gwyn Jones.
Dyddiad geni (blwyddyn yn opsiynol) :1972
Ganwyd yn: Aberystwyth
Byw yn: Glantwymyn wrth ymyl Machynlleth.
Ffaith ddiddorol amdanoch eich hun: Cefais fy achub gan hofrenydd byddin Chile tra’n cerdded mynyddoedd yn yr Andes.
Beth yw eich cefndir a/neu beth ydych yn ei wneud ar hyn o bryd? :Athro Ysgol Uwchradd.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau? : Mwynhau y direidi yn llyfrau Eurig Wyn, United a Powdr Rhech. Hefyd, yr angen am lyfrau hwyliog a gwreiddiol yn Gymraeg.
Pa lyfrau wnaeth ddylanwadu arnoch fel darllenwr ifanc? Pam? :Cofiaf fy mam yn prynu llyfr o’r enw, Ffrindiau Tomi i mi mewn ‘steddfod flynyddoedd maith yn ôl. Roeddwn wrth fy modd gyda’r stori a’r lluniau. Wedyn, cefais flas ar lyfrau Twm Miall, Cyw Haul a Cyw Dôl a llyfrau Dafydd Huws am y Dyn Dwad.
Beth sydd bwysicaf – y cymeriadau neu’r plot? Hynny yw – beth sy’n gwneud llyfr da? : Mae creu cyfanwaith yn bwysig, ond rwy’n meddwl bod y llais yn y llyfr yn bwysig iawn. Mae’n rhaid trio cael y llais i siarad efo’r darllenwyr.
Beth yw eich llyfr diweddaraf i blant? : Brenin y Trenyrs. (Gwasg Carreg Gwalch)
Beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori? : Mwynhad o ddarllen stori syml a thrafod pethau’r byd yn naturiol yn Gymraeg.
Pa neges sydd gennych i ysbrydoli darllenwyr/ysgrifenwyr ifanc? : Peidiwch ag aros am ryw ysbrydoliaeth fawr, ac i’r lleuad a’r ser fod yn y lle iawn. Eisteddwch i lawr, a thriwch greu RHYWBETH! Wedyn, mi fydd gennych chi rywbeth i’w ddatblygu a’i ymestyn a’i wella.
Oes yna gymeriad rydach chi’n ei garu neu’n ei gasáu? : Dwi’n hoff iawn o’r prif gymeriad, ond dydw i ddim yn hoff iawn o Lloyd, cariad Lisa, ei chwaer.
Oes llyfr newydd ar y gorwel? : Os byw ac iach, bydd Kaiser y Trenyrs yn cael ei gyhoeddi fis Hydref.
Beth yw dy hoff bar o dreinyrs yn y byd? :Mae’n rhaid i mi sôn am y pâr o drenyrs adidas cyntaf a gefais yn siop Meirion Appleton yn Aberystwyth erstalwm. Adidas Samba du a gwyn oedden nhw, ac roeddwn yn teimlo’n rel boi ac yn meddwl fy mod i’n gallu rhedeg yn gyflymach a neidio’n uwch ynddyn nhw. Y trenyrs diweddara i mi eu cael ydy Adidas Original Supercourt gwynion. Roedden nhw’n fargen am hanner pris!
Os fasa gen ti dreinyrs hud – be fasa ti’n hoffi nhw allu wneud? E.e. superpower : Cerdded fyny walia’ a neidio o un adeilad i’r llall.
Trenyrs i bawb o bobl y byd ddweda i!