Enw llawn: Carys Haf Glyn
Dyddiad geni:4ydd o Fehefin 1980
Ganwyd Yn:Casnewydd
Byw Yn:Y Fenni
Ffaith ddiddorol am dy hun:Rydw i wedi cyflwyno ar yr un rhaglen deledu a James Corden…blynyddoedd MAWR yn ôl!
Beth yw dy gefndir a/neu beth ydych yn ei wneud ar hyn o bryd?
Dw i wedi gwneud dipyn bach o bopeth, bod yn newyddiadurwr, ymchwilydd i brifysgol, gweithio mewn siop esgidiau…bod yn gogydd ar y deledu gyda Ainsley Harriot ( gyrfa byr!)
Erbyn hyn dw i’n athrawes yn Ysgol Gymraeg Y Fenni, lle rydw i’n lwcus iawn i fod yn dysgu plant bendigedig am bethau gwych fel cestyll a dreigiau!
Mis Hydref gaeth fy llyfr cyntaf Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll ei gyhoeddi gan Lolfa… breuddwyd wedi dod yn wir…
Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau?
Sa i’n cofio amser pan nad oeddwn i eisiau ysgrifennu. Rwy wastad wedi caru odli a phan yn ifanc r’on i wastad yn hoffi ysgrfiennu rhyw bennillion neu ‘raps’ bach syml. Bues i’n ddigon lwcus i ennill gytadleuaeth ysgrifennu Dydd Gwyl Dewi yn y ‘Western Mail’ pan o’n i’n 14 a rhoddodd hwnna hwb mawr i fi.
Mae fy mhen fel peiriant popcorn yn llawn syniadau … rhai ohonyn nhw yn hollol wirion a rhai ohonyn nhw dw i’n trio datblygu.
Pa lyfrau wnaeth ddylanwadu arnot fel darllenwr ifanc? Pam?
Roeddwn i wrth fy modd gyda Roald Dahl. Dw i’n cofio fy nhad yn darllen ‘Boy’ i fi cyn gwely rhyw dro a cocsio gwneud llais ‘Mrs Pratchet’ a fi’n rolio chwerthin.
Rwy hefyd yn dwlu ar lyfrau Alffi a Lili- Mei gan Shirley Hughes rwy cofio fy mam yn darllen nhw i fy chwaer fach a fi’n cael fy swyno’n llwyr gan y straeon a’r lluniau.
Beth sy sy’n gwneud llyfr da?
Cymeriadau. I fi os nad oes cysylltiad rhwng y darllenwr ar cymeriadau – does dim llawer o bwynt darllen ymlaen.
Wrth gwrs mae angen y cymeriadau da a’r drwg ym mhob llyfr – a does dim byd gwell gen i na dihiryn i bawb gasau!
Hefyd, dw i’n dwlu ar lyfrau doniol a llyfrau sydd yn llawn lluniau!!
Beth yw dy llyfr diweddaraf i blant?
Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll yw fy llyfr diweddaraf ac mae’r darluniau gwych wedi creu gan y fendigedig Ruth Jen!
Beth wyt ti’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori?
Pam ei ‘sgwennu?
Yn y stori rydw i’n cyflwyno y darllenwyr i G- Hw, Eryr, Mal, Carwww a Chwim yr eog. Rhain yw Criw’r Coed ac anifeiliaid Hynaf y Byd. Maen nhw’n hen, hen gymeriadau o’r Mabinogi ond yn y stori hon maen nhw wedi dod yn ôl i ddatrys problemau anifeiliaid heddiw.
Yn y llyfr hwn, her y Criw yw i ddatrys dirgelwch y gwenyn coll. Mae hwn yn broblem go iawn yn ein byd ni heddiw – mae gwenyn yn diflannu yn gyflym achos rhesymau fel diffyg blodau gwyllt. Roeddwn i eisiau i blant deall bod hyn yn broblem yn ein byd ni heddiw ond hefyd roeddwn i eisiau iddyn nhw sylweddoli eu bod nhw gallu helpu eu datrys trwy blannu blodau gwyllt.
Roeddwn i hefyd eisiau i blant ddeall pa MOR BWYSIG yw gwenyn – nid pethau i fod yn ofnus ohonynt – wedi’r cyfan heb wenyn byddai ein deiet yn edrych yn dra wahanol!
Pa neges sydd gen ti i ysbrydoli darllenwyr/ysgrifenwyr ifanc?
Y neges yw ‘Cofiwch y Gwenyn’ a thrwy gwneud pethau bach mae bosib gwneud gwhaniaeth MAWR iddyn nhw!
Oes gen ti hoff/gas gymeriad o ffilm neu stori? Pam?
Rwy’n dwlu ar gymeriad Mrs Mawr o lyfrau Jill Murphy. Rydw i a Mrs Mawr yn debyg iawn… rydyn ni’n hoffi cacennau, eisiau pum munud o lonydd ond wrth ein bodd gyda’n teuluoedd bach ni!
Cymeriad dw i, hyd heddiw, wirioneddol ofn yw y Childcatcher yn y ffilm Chitty, Chitty, Bang, Bang. Rwy’n dwlu ar y ffilm ond mae’r golygfeydd gyda’r childcatcher ynddynt yn waeth na unrhyw ffilm ‘horror’ i fi! Hefyd dw i ddim yn or hoff o stori Pinochio – mae rhywbeth annifyr iawn am yr holl beth…
Oes llyfr/prosiectau newydd ar y gorwel?
Mae llwyth o syniadau gen i … ond mae troi’r syniadau yna yn waith gorffenedig yn dipyn o beth! Dw i wedi bod yn gweithio ar nofel Saesneg i blant 8-12 ers blynyddoedd
‘The Fabulous League of Silver Spies: Operation What-a-Whiff’. Dw i’n benderfynol o’i gorffen cyn ddiwedd y flwyddyn.
Beth sydd orau – llyfr go iawn neu e-lyfr?
Heb os, llyfr go iawn. Teimlad y clawr, y papur tu fewn, yr arogl – cael teimlo’r pwysau yn dy law… does dim byd gwell.
Mae Tŷ Newydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 30ain oed. Sut brofiad oedd bod yno?
Tŷ Newydd – heb os un o hoff wythnosau fy mywyd. Dw i wedi bod yn breuddwydio mynd am flynyddoedd.. ac mi lwyddodd y gwironedd i fod cystal a’r ffantasi.
Bwyd gogoneddus, golygfeydd godidog, sgyrsiau difyr… lle i’r corff ymlacio ac i’r ymenydd cael creu.
Unrhyw sylw arall?
Cofiwch y Gwenyn!