Cartref digidol diwylliant Cymru.

A heuo faes, gwyn ei fyd?

Llenyddiaeth

Ar Newyddion S4C ar 12 Awst bu adroddiad o bentref Palestinaidd al-Mughayyir ar y Lan Orllewinol. Soniwyd ynddo am ymosodiadau ar y pentrefwyr gan ymsefydlwyr Israelaidd. Ar newyddion Saesneg y BBC ar 18 Awst gwelwyd lluniau dramatig o ymosodiad ar fferm gerllaw Turmus Aya gan griw o ddynion mewn masgiau. Unwaith eto, ymsefydlwyr Israelaidd oedd wrthi ac aethant ati yn llygad y camera i losgi adeiladau a cherbydau.

Does dim oll yn newydd yn y fath olygfeydd. Tra mae llawer ohonom yn bryderus am ddyfodol y fferm deuluol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn rhwystredig gyda pholisi llywodraeth a biwrocratiaeth, mi fentraf ddweud bod sefyllfa ffermwyr Palestina yn llawer iawn gwaeth. Wedi’u herlid o’u tiroedd er pan ffurfiwyd Israel yn 1948, maent bellach yn cael eu herlid allan o fodolaeth yn Gaza a hefyd ar y Lan Orllewinol.

Deuthum i wybod mwy am eu sefyllfa trwy gysylltiad â swyddog y wasg Undeb Ffermwyr Palestina, Rula Al Khateeb. Un o Beirut yw Rula yn wreiddiol (fe’i ganed yn 1976), ei mam o gefndir Cristnogol a’i thad yn Fwslim. O’r helyntion yn Libanus ddechrau’r 1980au, ffodd y teulu i Ddamascus ac yna i’r Lan Orllewinol. Ym mis Chwefror 2024 y bu ein cysylltiad cyntaf, ac rydym wedi bod yn gohebu’n gyson ers hynny. Ffermwyr bach yw ffermwyr y Lan Orllewinol, yn cadw ychydig o wartheg i’w godro gyda llaw, ac fe ystyrir diadell o hanner cant yn fawr. Mae’r modd y maent yn cydweithredu i gynaeafu ffrwyth yr olewydd a chnydau eraill yn fy atgoffa o ffermwyr Cymru genhedlaeth neu ddwy yn ôl. Fodd bynnag, dyna lle mae’r gymhariaeth honno’n gorffen gan fod ffermwyr y Lan Orllewinol yn byw dan ormes Israel ers 1967.

Bellach mae’r ymosodiadau arnynt yn rhan o ymgyrch llywodraeth Israel gyda’r ymsefydlwyr yn cael eu harfogi ganddynt a’u cefnogi gan y fyddin. Dyma ymosodiadau sy’n gwbl fygythiol ac yn gorfforol dreisgar, gan gynnwys curo gyda phastynau a chwip, a defnyddio nwy dagrau. Mae’r trais wedi cyrraedd uchafbwynt newydd gyda saith o ffermwyr wedi’u lladd ers mis Chwefror eleni. Yn ystod y mis diwethaf yn unig, bu 1,568 o ymosodiadau, meddiannwyd dros 130 o aceri o dir, a dinistriwyd 3,500 o goed olewydd. Maluriwyd hefyd asedau eraill fel cychod gwenyn, adeiladau amaethyddol a thanciau dal dŵr hanfodol.

Oherwydd y sefyllfa hon mae Undeb Ffermwyr Palestina yn galw am sancsiynau rhyngwladol ar unwaith ar Israel a’i rhwydweithiau o ymsefydlwyr. Galwant hefyd am erlyn arweinwyr ac ymsefydlwyr Israelaidd trwy’r Llys Troseddau Rhyngwladol, am bresenoldeb amddiffynnol ar frys i ffermwyr a chymunedau sydd mewn perygl, ac am atal pob cefnogaeth economaidd a milwrol ryngwladol sy’n helpu i greu a chynnal systemau apartheid.

Mae’r hil-laddiad yn Gaza yn amlwg ac nid yw’r hyn sy’n digwydd ar y Lan Orllewinol ond ymgais bellach at lanhau ethnig a dinistrio hil gyfan a hynny gan wladwriaeth sy’n cael ei chefnogi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Richard Parry Hughes

Mae Richard Parry Hughes yn ffermio yn ardal Llwyndyrys ac yn gyn-arweinydd ar Gyngor Gwynedd.

RHANNWCH