LLUN: Tudalen o gylchgrawn Zimbabweaidd sydd wedi ei fframio ar y wal yn stiwdio Rufus, ac sydd wedi helpu trwy’r cyfnod covid o’i ffram aur. Roedd hi’n gwylio ac yn cyfrannu wrth i’r gerdd hon siapio.
Gwlith dwyieithog
Casglu pob diferyn
Falle fydd y gaeaf yn hir
Cofiwch Dryweryn …
Mewn cyflwr o gloi i lawr
Ni wedi meistroli edrych i mewn
Rhagwelediad, annibyniaeth Cymru
Amser troi’r gêm arnyn nhw …
Mae gen i weledigaeth ar gyfer fy mhlant
Mae gen i weledigaeth ar gyfer ein tir
Wedi cael digon o’u hesgusodion
Trowch yr ESGEULUSTOD mewn i rhywbeth pur…
Mae popeth wedi pydru
Ond mae Cymru’n tyfu
Rowch y cyfle i ni’n Dau Ddatblygu
Gallwn ddal ein cenedl ein hunain, totally tidy …
—–
Mae Rufus Mufasa (@rufus_mufasa ar IG, @rufusmufasa ar Twitter) yn artist arloesol, yn weithredwr llenyddol, yn fardd, yn rapiwr, yn gantores-gyfansoddwraig, yn wneuthurwr theatr ac yn ogystal, ond nid yn llai, na hynny, yn fam i Molly ac Alice.