Dau
(ymateb i waith Gwenno Llwyd Till, a datganiad gan Undod fod dau o fabis wedi marw tra’n cael eu geni yn y carchar llynedd.)
Ma pedwar dan fy ngharthen i
Mwythau meddal yn meddiannu
Dim ‘cer nol i dy wely’
Ma croeso a cwtsh ma i chi.
Ond licen i lonydd weithie;
ma’n nyddie i’n llawn chi,
gai amser i orwedd jyst fi?
Ond fi’n dysgu am fy mraint a’n diolchgar bo fi’n bod.
A bod gen i ddwy, tra bo dau na fu.
Anrhydedd fy llinyn bogail yw cynnal
Nid crebachu i ddim.
Fi’n rhydd i eni a charu.
Fi’n camu ar y lego am y canfed tro
A’n diolch am boen croen nid tor calon.
—–
Mae Rhiannon M. Williams (@rhiannonmwill ar IG, @RhiannonMWill ar Twitter) yn ddarlithydd theatr a drama ym Mhrifysgol De Cymru, yn ymarferydd theatr ac yn Fam i ddwy o ferched ifanc. Mae ei hymchwil a’i gwaith ymarferol yn aml yn edrych ar berfformio diwylliant Cymraeg, yn enwedig yn nhraddodiad y capel – ac yn fwy diweddar ar hunaniaeth y fenyw o fewn y gymdeithas honno.