Drych
Yn ‘stafell dy ymennydd
mae’r cwpwrdd wedi ei gloi,
A’r geiriau sy’n deimladau’n
Sownd rhwng cloriau’r llyfrau brau.
Mae muriau caeth dy feddwl
Yn gwasgu’th egni gwan ,
A thithau yn flinedig yn mynnu holi
Pam?
Dwi’n erfyn arnat , …sbia
I fyw fy llygaid I ,
Gwel dy holl freuddwydion,
D’obeithion yn obennydd plu ;
Os nad wyt ti’n fy nabod ?
Dwi yn dy nabod di .
—–
Mae Ruth Lloyd Owen (@Ruthlloydowen3 ar Twitter) yn wraig, yn fam ac yn gerddor sy’n hoffi cadw’n brysur, a cheisio codi gwên.