Deuddegfed artist 24:24 ydi Elen Gwenllian Hughes (Yndan, rydan ni wedi cyrraedd hanner ffordd!). Mae ei cherdd gyda thrac sain i gyd-fynd dilyn ymlaen o gerdd a fideo Beth Celyn.
Mae Elen Gwenllian Hughes (@elengwagynoe ar IG) yn 26 oed ac yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Dyffryn Nantlle ac yn rhedeg cwmni celf bach dan y teitl Ffranc! Mae hi hefyd yn ffarmio a thrin cŵn defaid yn ei hamser sbar yng nghanol bob dim!