Sikhs in Wales

Rydw i wedi cael fy ariannu gan Gyngor y Celfyddydau i ymchwilio i hanes bobl Sikhaidd yng Nghymru ers rhannwyd Ymerodraeth Indiaidd Prydain yn 1947. Gall ein gwybodaeth hanesyddol yn gallu cyrraedd yn ôl at ein Gwrws Sikhaidd ac ein cyndeidiau a sefydlodd yr Ymerodraeth Sikhaidd. Ers i’n cenedlaethau hŷn fudo dros y glôb a setlo yma yng Nghaerdydd, mae gwledd o hanes yn bodoli na ddylai gael ei anghofio.
Mae’r prosiect yma yn anelu i ddogfennu a dathlu treftadaeth a chyfraniadau gwerthfawr y gymuned Sikhaidd yng Nghymru drwy gasglu hanesion llafar aelodau’r gymuned, bydd yn ffurfio rhan o arddangosfa, ac archif ar gyfer cenedlaethau dyfodol ein cymuned a’r cyhoedd.
Bydd y gymuned Sikhaidd yn dathlu 35 mlynedd ers sefydlu’r gurdwara bresennol yn 2024. Roedd y gurdwara gwreiddiol yn rhan hanfodol o gymuned Caerdydd ers y 1950au, ac mae’r penblwydd hwn yn garreg milltir bwysig. Er mwyn dathlu’r digwyddiad arbennig hwn, rydym wedi curadu arddangosfa fach o ffotograffau a deunydd ffilm i gyd-fynd a’n dathliadau. Bydd hyn yn cynnig cyd-destun hanesyddol i’n cenedlaethau ifanc, a gwella’r ddealltwriaeth o dreftadaeth Sikhaidd yng Nghymru.
Sŵn 2024

Gŵyl cerddoriaeth gyfoes aml-leoliad glodwiw yw Gŵyl Sŵn, sydd wedi bod yn gonglfaen i dirlun diwylliannol Caerdydd ers 2007. Gydag ymrwymiad diwyro i arddangos cerddoriaeth newydd ac artistiaid dawnus sy’n dod i’r amlwg, mae rhaglen ein gŵyl yn dathlu ystod amrywiol o artistiaid, o artistiaid lleol i rai rhyngwladol.
Dros dridiau cofiadwy bob blwyddyn, rydyn ni’n cymryd yr awenau yn rhai o’n hoff leoliadau ledled canol y brifddinas. Rydyn ni’n trawsnewid y ddinas yn hyb byrlymus ar gyfer cerddorion a chefnogwyr fel ei gilydd, gan roi cyfle i chi archwilio dinas hyfryd Caerdydd, ei lleoliadau cerddoriaeth annibynnol, a darganfod cerddoriaeth newydd ryfeddol.
Eleni, bydd gŵyl Sŵn yn digwydd o ddydd Iau 17 Hydref tan nos Sadwrn 19 Hydref.
Mae lleoliadau eleni yn cynnwys; Clwb Ifor Bach, Tramshed, Jacobs Antiques Market, Tiny Rebel, The Moon, Fuel, Mad Dog Brewery, a Cornerstone.
Eleni, mae Sŵn yn rhan falch o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn dinasgerddcaerdydd.cymru.
Cynrychioli Cymru | Representing Wales 2025-26

Ymgeisiwch nawr ar gyfer pumed rownd Cynrychioli Cymru!
Dyma raglen ddwyieithog 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol. Eleni, rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n dymuno ysgrifennu a chreu ar gyfer oedolion. Bydd y rhaglen yn cael ei rhedeg rhwng Ebrill 2025 – Mawrth 2026.
Yn ystod y flwyddyn, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi carfan o 14 o awduron drwy gynnig y canlynol:
-
Ysgoloriaeth ariannol o £3,000
- Nawdd ariannol ar gyfer teithio a thocynnau
- Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr, gydag un ohonynt yn benwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
- Mentor personol
- Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
- Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
- Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd
- Rhaglen ôl-ofal bwrpasol
Dyddiad cau: 12.00 pm hanner dydd, Dydd Iau 10 Hydref 2024.
Sesiynau Galw Heibio
Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn digidol anffurfiol rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar ddydd Iau 29 Awst a dydd Mawrth 10 Medi 2024. Cliciwch ar y dyddiadau i archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite.
Dal Gafael/Hold On

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Fio a Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno:
Dal Gafael / Hold On
Gan Mared Llywelyn and Steven Kavuma
Cynhyrchiad Dwyieithog
Cyfarwyddwyd gan Dr Sita Thomas
Bydd capsiynau agored ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn y perfformiadau i gyd.
PSYLENCE 2024

Mae Pontio yn cyflwyno penwythnos o digwyddiadau arbennig fis Hydref i dathlu a chofio ein cyfaill a chydweithiwr, Emyr Glyn Williams (Emyr Ankst).
4-6/10/24
Psylence oedd un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous i Emyr gydlynu yn ei waith yma’n Pontio gyda bandiau megis Datblygu, Adwaith, ac R. Seiliog yn gosod cerddoriaeth a’i berfformio’n fyw i ffilmiau megis: Kiss Andy Warhol, ffilmiau byr Maya Deren, Earth gan Dovzhenko, a llawer iawn mwy gan lenwi penwythnos o ddigwyddiadau yn y Sinema.
Dywediad Emyr oedd ‘adeilada fo, am mi ddown nhw’ – felly dyma ni yn adeiladu ar un o’i ddigwyddiadau mwyaf beiddgar, arloesol a chyffrous gyda penwythnos cyfan o ddigwyddiadau; Psylence 2024 fydd y mwyaf eto.
Bydd elw’r digwyddiadau yn mynd i Ymchwil Canser y DU, a ddewiswyd gan deulu Emyr.
Rhagor o artistiaid a digwyddiadau i’w cyhoeddi hefyd!
The City Socials

Cysylltwch â chyd-artistiaid a gweithwyr llawrydd sy’n gweithio ym myd y theatr
The Sustainable Studio, 59-61 Tudor Street, Caerdydd CF11 6AD
18:30 – 21:20 ddydd Iau 15 Awst
Pennod 47 – ‘Swydd y Beirdd sydd heb Urddas’: Beirdd, Dyneiddwyr a Karl Marx
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y ffactorau a oedd yn tanseilio’r gyfundrefn farddol Gymraeg yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Trafodwn dair her yn benodol, gan ddechrau gyda’r ffaith bod pwll nawdd yn crebachu gan ei gwneud yn anos i fardd ennill bywoliaeth trwy ganu mawl.
Ystyriwn her syniadau ac agweddau’r dyneiddwyr hefyd a’r ymrafael rhwng dau fath o ddysg yn y cyfnod.
Ac yn olaf, crybwyllwn y modd yr oedd technoleg newydd y wasg argraffu yn cynnig her o fath arall. Clywir hanesyn am uchelwr a ddangosodd ddirmyg i fardd mawl mewn modd cofiadwy a cheir cyfle i wyntyllu dadansoddiad Marcsaidd o’r newidiadau hyn yn hynt hanes ein diwylliant llenyddol.
What’s on! / Be sy’n digwydd!

Darganfyddwch pa ddigwyddiadau sydd gennym ar y gweill yma yn TAPE
Yn Fyw o Babell Lên Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Rhifyn arbennig o Colli’r Plot yn fyw o Babell Lên Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024.
Trafod hanes ein ‘Steddfod, gwychder Pontypridd, y fedal Daniel Owen, llyfrau da ni wedi darllen a mwy.
Beacons Cymru Basecamp

Edrychwch ar y ffilm fer anhygoel hon a a gynhyrchwyd gan dîm talentog o bobl ifanc gyda chefnogaeth hwylusydd TAPE, Niall Jones.
Mae’r ffilm yn dogfennu digwyddiad Basecamp Beacons Cymru diweddar a gynhaliwyd yn TAPE, a oedd yn rhan o brosiect Winter Sounds Creu Conwy.
Roedd y digwyddia yn cynnwysgweithdai, paneli, a pherfformiadau ar gyfer pobl ifan sydd â diddordeb yn y diwydiant cerddoriaeth. Roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig, ac rydym wrth ein bodd yn ei rannu gyda chi.
Ymysg Y Tonnau – Ysgol Bod Alaw

Dros bump wythnos olaf y tymor ysgol mae TAPE wedi bod yn gweithio gyda disgyblion o flynyddoedd pump a chwech i wneud collage a ffilm fer yn seiliedig ar drydedd ffilm nodwedd TAPE, Ymysg y Tonnau.
Gan weithio gyda dau ddosbarth, y cyntaf yn gwneud collage uwchben y tonnau a’r ail yn canolbwyntio ar ymysg y tonnau. Y disgyblion yn cydweithio mewn grwpiau i arbrofi gyda gwahanol ddulliau o defnyddiau a ddarganfuwyd.
Bu’r cyngor digidol yn gweithio gyda staff TAPE is greu rhaglen ddogfen fer ar y broses o wneud collage.
CHROMA – Adlais 3 Live

Yn dychwelyd gyda’n digwyddiad mwyaf eta gyda CHROMA act eraill!
Tŷ Pawb, Wrecsam
Medi 13 2024
Tocynnau: https://www.skiddle.com/whats-on/Wrexham/Ty-Pawb/CHROMA—Adlais-3-Live/39313042/
Digwyddiadau Llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

Dewch i fwynhau’r arlwy isod yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd.
Gareth Churchill

Artist y Mis ar gyfer mis Awst yw Gareth Churchill!
Mae Gareth Churchill yn gyfansoddwr, artist cydweithredol, athro cerdd, a bellach yn chwaraewr clarion. Mae’n athro cerdd i Ddysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi bod yn aelod o Baraorchestra ers 2018.
Hyfforddodd yn wreiddiol fel oböydd, a bu’n ffodus i chwarae ar lefel broffesiynol, cyn i strôc ei adael â namau gwybyddol, synhwyraidd a chorfforol yn 20 oed. Ailgyfeiriodd hyn ei lwybr tuag at gyfansoddi.
Fel cyfansoddwr, mae sain ei gerddoriaeth wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ei brofiad byw personol, o’r rhyngweithio rhwng y mecanyddol â’r organig, ac, yn aml gydag agwedd hunangofiannol, mae ei waith yn ceisio rhoi llais cerddorol a mynegiant artistig i brofiadau byw eraill.
Every Child a Filmmaker

Yma yn TAPE, rydym ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen 6-sesiwn a ddatblygwyd gan Into Film. Mae’r rhaglen wedi’i chreu i annog pobl ifanc i fynegi eu hunain a rhannu eu straeon trwy ffilm. Bydd y rhaglen yn galluogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau gwneud ffilmiau gan weithwyr proffesiynol a dod â safbwyntiau newydd i’r sgrin.
What is TAPE?

Mae TAPE yn ymfalchïo mewn hygyrchedd a chynwysoldeb, ac mae wedi bod yn darparu cyfleoedd cynhwysol, cefnogol o ansawdd uchel, a arweinir gan yr unigolyn ers 2008.
Edrychwch ar ein sianel i weld y gwaith mae TAPE wedi gwneud gyda’r cymuned, yn ogystal â’u cyflawniadau dros yr 16 mlynedd diwethaf.
Pennod 46 – Llenyddiaeth Gymraeg yr Eidal a Gwasg Anghyfreithlon yng Nghymru
Gan ein bod ni wedi edrych ar y berthynas rhwng dyneiddiaeth, Protestaniaeth a’r iaith Gymraeg yn ddiweddar, dyma gyfle i ystyried ochr arall ceiniog y Diwygiad.
Trafodwn ychydig o lenyddiaeth Gymraeg Gatholig yr unfed ganrif ar bymtheg yn y bennod, gan ganolbwyntio ar ddau gyfaill rhyfeddol, Morris Clynnog a Gruffudd Robert. Bu’n rhaid i’r ddau ddyn yma o ogledd-orllewin Cymru ffoi i’r cyfandir oherwydd eu crefydd pan ddaeth y frenhines Brotestannaidd Elizabeth I i’r orsedd.
Cyhoeddi llyfrau Cymraeg ym Milan, cwffio rhwng y Cymry a’r Saeson yn y Coleg Seisnig yn Rhufain, cynhyrchu llyfr Cymraeg Catholig ar wasg anghyfreithlon mewn ogof yng Nghymru – roedd yr alltudion Cymreig hyn yn gysylltiedig â rhai o’r penodau mwyaf anhygoel yn hanes yr iaith Gymraeg.
Llais y Lle 2024

Lansiwyd Llais y Lle yn 2023 i gefnogi unigolion creadigol i ddatblygu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg drwy weithio gyda chymunedau. Roedd rhai o brosiectau’r llynedd yn amrywio o ŵyl i ddathlu merlod gwyllt y Carneddau, i astudiaeth o rôl yr iaith yn Nhrebiwt; a gweithdai creadigol i bobl ifanc yn Sir Drefaldwyn.
Mae modd gweld rhywfaint o waith Llais y Lle 2023 ar sianel y prosiect ar AM. Nododd Einir Sion, Ysgogydd y Gymraeg i Cyngor Celfyddydau Cymru, ei bod yn falch i allu rhannu’r straeon yma: “Mae prosiectau Llais y Lle 2023 wedi bod yn wych ac wedi cael effaith mawr ar yr iaith Gymraeg chymunedau ledled Cymru. Mae’r straeon yma yn haeddu cael eu clywed, ac AM yw’r llwyfan perffaith i wneud hyn.”
Eleni derbyniwyd mwy o geisiadau nac erioed, ac mae’n bleser gan Cyngor y Celfyddydau cyhoeddi enwau carfan Llais y Lle 2024. Wrth eu datgelu dywed Einir: “Mae’n bleser croesawu 16 o unigolion arbennig i deulu Llais y Lle 2024. Roedd y flwyddyn gyntaf yn eithriadol ond rydym wedi dysgu ohono ac wedi sicrhau bod yr ail flwyddyn yn targedu cymunedau a chelfyddydau gwahanol, yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddatblygu arfer creadigol Cymraeg ac yn parhau i gynnal ffordd gefnogol a chyfunol o weithio. Mae’r cyfan eleni ar blatfform AM o’r cychwyn. Dwi’n gyffrous iawn am be ddaw”.
Ffion Campbell-Davies – Yn yr Afon/Khalon
TRYDYDD ARTIST UNTRO: FFION CAMPBELL-DAVIES
Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad | Reinventing the Protagonist

Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, unwaith eto yn falch o wahodd awduron Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol sydd yn byw yng Nghymru i ymgeisio am le ar ein cwrs ysgrifennu creadigol digidol, Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad a fydd yn cael ei gynnal yn ystod gaeaf 2024 – gwanwyn 2025.
Dyddiad Cau: 12.00pm, dydd Iau, 29 Awst
Dyddiadau’r cwrs: 6, 13, 20, 27 Tachwedd 2024, gyda sesiynau un-i-un a’r gweithdy olaf yn cael eu cynnal ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025.
Bydd y tiwtor yn penderfynu ar yr amser mwyaf cyfleus unwaith mae’r grŵp wedi cael ei benodi.
Sesiynau galw heibio: Dydd Mercher 24 Gorffennaf 1.00pm-2.00pm, Dydd Mawrth 6 Awst, 1.00-2.00pm.
Ffion Campbell-Davies – Yn yr Afôn
Rhan o gronfa fideo Lŵp x PYST
Ffion Campbell-Davies – Yn yr Afôn
Rhan o gronfa fideos PYST x Lŵp S4C
Hedydd Ioan – Penygroes

Mae Byw ‘Ma yn broject lle byddwn i, Hedydd Ioan yn datblygu mherthynas fel unigolyn ac fel artist efo fy nghymuned, sef ardal Dyffryn Nantlle. Y prif amcan fydd dod i ddalld gofynion dyddiol a creadigol unigolion o fewn fy nghymuned.
Partner – Yr Orsaf. Penygroes
Frances Higginson – Y Fenni, Powys

Labordy gwaith ar y llawr Cymraeg gyda dawnswyr cymunedol i ddatblygu geirfa, trosiadau a rhannu barddoniaeth o’r cysylltiad cinetig rhwng ein cyrff symudol a’r ddaear. Byddwn yn mynd â hyn ar y tir lle rydym yn byw a gweithio.
Creu ffilm o’r broses yn y Gymraeg gyda gwneuthurwr / artist ffilm niwro-wahanol di-Gymraeg. Daw y Gymraeg yn arf i ddeall ac agosatrwydd.
Partner – Dance Blast
Paul Eastwood – Wrecsam, Dinbych a Conwy

Siarid i greu, creu i siarid yn prosiect sy’n canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd cymunedol trwy ddefnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng. Bydd y prosiect yn cynnwys nifer o weithgareddau a digwyddiadau sy’n archwilio gwahanol dechnegau a chymwysiadau celf, sy’n cefnogi trafodaeth a dysgu yn yr iaith Gymraeg. Ysbrydoli pobl o bob cefndir i ddod yn rhan o brofiad artistig.
Partneriaid – Menter Iaith Wrecsam, Dinbych a Conwy, Oriel Mostyn, StudioMade a Perilco
Eadyth Crawford – Merthyr

‘Mae ‘Y KandE Collective’ yn brosiect blwyddyn o hyd yn gweithio yn agos gyda Merthyr drwy gerddoriaeth, celfyddydau a pherfformiaday i hyrwyddo dysgu Cymraeg. Bydd gweithdai, creu cerddoraeth ar y cyd, perfformiadau byw a gosodwaith celf cyhoeddus yn meithrin profiad iaith bywiog.
Bydd modd cael blas o Llais y Lle mewn digwyddiad arbennig yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ac mae croeso mawr i bawb ymuno yn YMa ym Mhontypridd rhwng 10 – 1 ddydd Mercher Awst 7ed.
Partner – Canolfan a Menter Iaith Merthyr Tudful
Bridie Doyle-Roberts – Rhondda Cynon Taf

Mae Rêf Celf yn labordy creadigol i artistiaid sy’n croesawu diwylliant Pop, Rêf a Gŵyl i archwilio’r hunaniaeth Gymreig gyfoes wrth greu gwaith Cymraeg newydd. Gwahoddir artistiaid o bob ffurf ar gelfyddyd o Dde Cymru, yn enwedig y rhai sy’n uniaethu fel pobl anabl, byddar neu niwroamrywiol, i chwarae, arbrofi, creu a chydweithio mewn profiadau cymdeithasol a chyfranogol.
Partneriaid – Valleys Kids, Theatrau RhCT, Soar, Artis Cymuned
Marc Roberts – Pontyberem, Gwendraeth Valley

Bydd prosiect Y Ddraenen Wen yn cynnig cyfle i’r gymuned i ddatblygu rhwydwaith o weithgaredd celfyddydol Cymreig a Chymraeg ym mhentref Pontyberem a bro Cwm Gwendraeth drwy gynnal nifer o sesiynau/gweithdai/gweithgareddau amrywiol. Bydd y pwyslais ar greu cyfleon sy’n hygyrch i bawb ar lawr gwlad ac yn cynnwys sesiynau gwerin/canu cymunedol/dawns/ffilm/ysgrifennu creadigol a chelf weledol.
Partneriaid – Clwb Rygbi Pontyberem, papur bro y Cwm, Llyfrgell Cwm Gwendraeth, Fforwm Iaith Cwm Gwendraeth
Angharad Owen – Dyffryn Peris

Ymchwiliad hanesyddol/celfyddydol a ieithyddol i hunaniaeth Dyffryn Peris, gan weithio efo grŵp Stori’r Tir, ac adeiladu ar arbrawf i ddod a pobl ynghyd yn y dyffryn i gyd-weithio ac ailgreu ein straeon coll ac anhysbys. Gweithio efo dulliau trafod a galaru, er mwyn gwneud synnwyr o’n colled ac ailsgwennu ein naratif at y dyfodol.
Partneriaid – GwyrddNi, Cynulliad Hinsawdd Dyffryn Peris
Coastline Film Festival

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod tocynnau ar gyfer y Coastline Film Festival nawr ar werth! Wedi’i rhaglennu gan Glwb Cyfryngau TAPE, mae’r wyl eleni yn cyflwyno detholiad o ffilmiau â themâu sy’n gysylltiedig â thrydedd ffilm nodwedd TAPE, Ymysg y Tonnau. Bydd yr wyl yn cael ei chynnal rhwng y 14eg a’r 16eg o Awst yng Nghanolfan Celfyddydau Cymunedol TAPE yn Hen Golwyn.
Archebwch eich tocynnau yma!
Myfanwy Alexander – Sir Drefaldwyn

Cae/Agor: ffilm uchelgeisiol gyda Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru. Gan ddefnyddio mapiau, bydd aelodau yn creu perfformiadau wedi eu ffilmio gan Robbie Meade gan ddarganfod Cymraeg wedi ei guddio yn y tirlun. Codi Cân: darganfod ac ymgysylltu gyda cherddorion lleol, archwilio rhwystrau i ddefnyddio y Gymraeg gan arwain at sesiynau cyfarfod a chyd-greu.
Partner – Ffermwyr ifanc
Sian Parri – Penrhyn Llŷn

Nod y prosiect ydi cynyddu defnydd y Gymraeg yn Llangwnnadl a’r ardal ehangach, wrth rannu a dathlu’r iaith a’r diwylliant, cynyddu cyfleon Cymraeg a chyd-ddarganfod celf a ffyrdd creadigol i groesawu pawb at y Gymraeg.
Mae Llangwnnadl wedi ei leoli yng ngogledd Llŷn ac mae ysgogi a chynyddu defnydd y Gymraeg fel iaith fyw yn y gadarnle yma’n allweddol i’w pharhad i’r dyfodol.
Partneriaid – Cymdeithas Pen-y-graig, Cyfeillion Llŷn, Cynghorau Cymuned Llŷn a thu hwnt, Menter Iaith Gwynedd a Cymunedoli.cyf.
Mymuna Soleman – Caerdydd a Chaernarfon

Celebrating Cofi Welsh through a Somali lens via creative writing workshops in Caernarfon. These creative sessions will focus on the intersectionality of the Welshness and race, with support by Mudiad Meithrin and the excellent resources they have prepared on anti-racism.
Ciaran Fitzgerald – Castell Nedd, Port Talbot

Bwriad y prosiect hwn yw dod â dau grŵp o bobl ifanc at ei gilydd a fyddai fel arfer â chysylltiad cyfyngedig â’i gilydd er eu bod yn byw yn yr un ardal ddaearyddol. Dwi’n bwriadu gwaithio gyda dwy ysgol, Ysgol Gyfun Bro Dur, ysgol Gymraeg brif ffrwd ym Mhort Talbot, ac Ysgol Maes y Coed, Ysgol Arbennig yng Nghastell-nedd, sydd ag ddisgyblion gyda amrywiaeth o anhawsterau dysgu a chyfathrebu yn ogystal ag anableddau corfforol. Fy mwriad yw gwneud darn o theatr stryd sy’n adlewyrchu’r gymuned y mae’r bobl ifanc hyn yn rhan ohoni, a’i harddangos yn Eisteddfod yr Urdd ym Margam 2025. Mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc o wahanol gefndiroedd, ond yr un gymuned, weithio gyda’i gilydd, a datblygu cyd-ddealltwriaeth rhyngddynt.
Doctor Pwy?
Y podlediad meddygol Cymraeg wrth i ni ddarganfod bod yna tri doctor bellach ar y podlediad.
Llongyfarchiadau i’r doctor newydd, Manon.
Mae darllen llyfrau yn dda i’ch iechyd. Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
Cysgod y Mabinogi – Peredur Glyn
Recipes for love and murder – Sally Andrews
Madws – Sioned Wyn Roberts
It Comes To Us All/Fe Ddaw Atom Ni Oll – Irram Irshad
Camu – Iola Ynyr
Y Bocs Erstalwm – Mair Wynn Hughes
Ultra-Processed People – Chris van Tulleken
Jac a’r Angel – Daf James
Gemau – Mared Lewis
Pris Cydwybod T.H.Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr – Bleddyn Owen Huws
Rhiannon Mair – Pontyates, Sir Gaerfyrddin

Prosiect ym mhentref Pontyates, Sir Gaerfyrddin, a fydd yn defnyddio llwybr chwedlonol y Twrch Trwyth drwy’r pentref, ynghyd a llwybr y traciau tren oedd yn cario glo’r cwm i’r porthladd, fel cynsail ar gyfer gweithgarwch creadigol Cymraeg yno.
Partner – cyngor cymuned Llangyndeyrn a Chapel Nazareth
Elin Mannion – Abertawe/Swansea

Cornel Cymraeg: Cyfle i gymuned weithgar ac ymroddedig GIG Bwrdd Iechyd Bae Abertawe sydd eisoes yn siarad a dysgu’r Gymraeg i gael troedio i mewn i’r celfyddydau a dysgu, defnyddio a byw’r Gymraeg nid trwy eirfa feddygol a chyfarchion “Cymraeg Cwrteisi” yn unig, ond mewn sefyllfaoedd creadigol, ysbrydoledig a chyffrous a thrwy weithdai gydag amryw artist Cymraeg.
Partneriaid – GIG Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Dysgwyr Cymraeg (staff)
Colin Daimond – Ynys Mon/Anglesey

Mae Cwtch yn brosiect celfyddydol rhyng-genedlaeth cerddorol, dawns a charnifal Cymraeg wedi ei arwain gan y gymuned. Bydd Cwtch yn ymbweru unigolion a chreu cydlyniad cymunedol drwy raglen eang hyblyg gyfranogol i siaradwyr Cymraeg o bob lefel. Bydd pob oedran yn cyd-greu perfformiad Carnifal cyfoes gan ddewis themau chwedlau, delweddau, tirluniau a cherddoraeth werin Cymru. Bydd hefyd gyfleon creadigol i weithio gyda chyfryngau digidol a deunyddiau wedi eu hail-gylchu.
Partneriaid – Rhwydwaith Gymunedol EHE, Wispy Willow Creations, Plas Llwynnon
Richard Huw Morgan – Trefforest, Pontypridd

Bydd y prosiect yn archwilio gwybodaeth, agwedd a hyder iaith Gymraeg cymuned dymhorol sef teithwyr bws yng nghymunedau glofaol de Cymru drwy gyfres o sgyrsiau un-wrth-un. Bydd yn annog hyder mewn unrhyw allu sydd gennym ac yn cydnabod ein bod oll ar sbectrwm o allu yma bynnag iaith y siaradwn. Bydd y cyfan yn cael ei ddogfennau fel cyfres o recordiadau ar gyfer arddangosda gelfyddydol glywedol yn y dyfodol.
Partner – Citrus Arts
Rufus Mufasa – Blaenau Gwent

Rhaglen gyfrwng gymysg amlddisgyblaethol yn rhoi cyfle i leisiau ar yr ymylon ail-ddychmygu iaith a’r celfyddydau gan amlygu medrusrwydd ac amrywiaeth ein cenedl â’i gwneud yn agored i bawb. Bydd mynegiant y genedl yn hygyrch i bawb ac yn cryfhau pob fframwaith, pob polisi, i bawb, heddiw a chenhedlaethau’r dyfodol.
Partner – Celf ar Y Blaen
Kirsti Davies – Machynlleth, Powys

Mae Gwreiddio yn brosiect wedi ei arwain gan artistiaid sydd yn anelu i fwyhau lleisiau Cymraeg yn Nyffryn Dyfi a dathlu ei berthynas hir a’i eiriolaeth o natur. Bydd y prosiect yn cychwyn ymholiad creadigol gan gyfoedion i feithrin balchder a pherchenogaeth o fewn naratif natur. Bydd y broses yn creu gwaith artistig newydd, gweithdai cydweithio ac yn cyrraedd penllanw mewn digwyddiad dathlu arbennig.
Partner – Ennyn, Eco Dyfi
Aildanio: Rhan Un
Ffilm gan Culture Colony am Wobr Celfyddydau Aildanio Celfyddydau Anabledd Cymru!
Mae’r Ffilm mewn dwy ran: Rhan 1 yn archwilio arferion celfyddydol yr artistiaid, a Rhan 2 yn arddangos arddangosfa deithiol Aildanio ei hun.
Aildanio: Rhan Dau | Part Two
Ffilm gan Culture Colony am Wobr Celfyddydau Aildanio Celfyddydau Anabledd Cymru!
Mae’r Ffilm mewn dwy ran: Rhan 1 yn archwilio arferion celfyddydol yr artistiaid, a Rhan 2 yn arddangos arddangosfa deithiol Aildanio ei hun.
Candice Black
Y Cysgod yn y Cof gan Bob Morris

Y Cysgod yn y Cof gan Bob Morris yw Llyfr y Mis, mis Gorffennaf.
Yr awdur Bob Morris, sy’n darllen blas o’r gyfrol
Aisha Kigs – Llygaid Cudd
Rhan o brosIect AffriCerdd – sef y bartneriaeth rhwng Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cefnogi artistiaid
lliw i weithio yn y Gymraeg.
Fideo wedi’i ariannu yn rhan o bartneriaeth Lŵp x PYST.
New Welsh-language songs by Adjua and Aisha Kigs released on Tŷ Cerdd’s ‘Sionci’ label

Mae’r ddau gyhoeddiad yn bennod newydd i AffriCerdd – sef y
bartneriaeth rhwng Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cefnogi artistiaid
lliw i weithio yn y Gymraeg
Below the Waves

Below the Waves fydd 3edd ffilm nodwedd TAPE, ond ein ffilm gyntaf i gael ei hanimeiddio!
Mae TAPE ar hyn o bryd yn y ‘cyfnod cyn-gynhyrchu ac Ymchwil a Datblygu’ ar gyfer Below the Waves. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gwneud llawer o arbrofi. Byddwn yn cynnal arddangosfa deithiol Below the Waves yn gynnar yn 2025. Bydd yr arddangosfa yn teithio i wahanol lefydd yng Ngogledd Cymru. Bydd yn dangos yr holl waith creadigol gwahanol sydd wedi mynd i Below the Waves hyd yn hyn.