Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sherman Theatre | Theatr y Sherman

Wedi’i lleoli yng nghanol Caerdydd, mae Theatr y Sherman yn dŷ cynhyrchu blaenllaw sy’n creu a churadu theatr o safon eithriadol ar gyfer pobol Caerdydd. Drwy ei ffocws penodol ar ddatblygu a chynhyrchu gwaith newydd, ac wrth feithrin artistiaid Cymreig, a’r rhai sy’n byw yng Nghymru, mae Theatr y Sherman wedi dod yn bwerdy i theatr yng Nghymru. Drwy’r cynyrchiadau sy’n cael eu hymarfer a’u hadeiladu o dan ei tho yn y brifddinas, mae Theatr y Sherman yn dweud straeon lleol gyda pherthnasedd byd-eang. Mae Theatr y Sherman yn le i bawb. Mae’n creu cyfleoedd i drigolion Caerdydd fedru creu cyswllt â’r theatr trwy ymrwymiad ysbrydoledig a gweledigaethol.

Cynnwys