Criw o wirfoddolwyr sydd wedi bod trefnu Gŵyl Fwyd Caernarfon ers 2015. Mae hi wedi tyfu i fod yn un o wyliau mwyaf o’i fath a bob mis Mai mae miloedd yn cyrraedd am ddiwrnod braf a chyfle i fwynhau bwyd, diod a bywyd ym mhob cormel o’r dre. Mae’r ŵyl am ddim i bawb ac yn dathlu diwylliant unigryw y dref mwyaf Cymraeg yn y byd gyda cherddoriaeth byw a gweithgareddau lu.
Ers mis Mawrth 2020 er mwyn cefnogi cynhrchwyr a chodi’r ysbryd mae’r ŵyl wedi trefnu digwyddiadau digidol.
NESAF : FFAIR NADOLIG DIGIDOL 29:11:20