Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gŵyl Fel ‘na Mai

Default Logo

Gŵyl gerddorol newydd ar safle Parc Gwynfryn wrth odre’r Frenni Fawr ym Mro’r Preseli, gogledd Sir Benfro yw Gŵyl Fel ‘na Mai.

Bydd rhai o dalentau mwyaf Cymru gan gynnwys Mei Gwynedd, Dafydd Iwan, Los Blancos a Bwncath yn perfformio, ynghyd â thalentau lleol o gorau i gantorion unigol.

Bydd dau lwyfan; cyfleusterau bwyta yn cynnwys darpariaeth llysieuol a fegan; bar yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd; gweithgareddau addas ar gyfer plant a safleoedd parcio.

Mae croeso i bawb – yn unigolion, yn bârau, yn deuluoedd a phartïon o bell ac agos i ymuno yn hwyl yr ŵyl a mwynhau’r croeso a’r holl ddarpariaeth.

Cynnwys