Gororau’r wlad, gororau’r iaith, gororau’r corff a’r meddwl. Gororau sain a’r gweledol – a’r profiadau hynny sy’n ffiniol. Gwasg sy’n awyddus i gynnig llwyfan a normaleiddio, hybu a blaenoriaethu allbynnau creadigol o’r gororau. Cynhwysa hyn hanesion y rhai sy’n byw ar y ffin, bob ochr i Glawdd Offa, ond hefyd y rhai sy’n ymgorffori cyflyrau ac sydd am rannu profiadau, nad ydynt yn ffitio’n daclus i’r blychau arferol. Daw’r cynnwys o’r cyrion, mi fydd yn heriol ac yn gwthio ffiniau dealltwriaeth arferol ar nifer o bynciau. Ond os ydych yn fodlon eistedd ar y teras i wylio ac i wrando, cewch eich diddanu a’ch difyrru.