Dechreuwyd Recordiau Fflach gan y brodyr Richard a Wyn Jones ym 1981. Roedd y ddau yn aelodau o’r grwp don newydd/pync Ail Symudiad, ac mae’r band dal i fynd. Ar y dechrau dim ond label oedd Fflach yn hyrwyddo grwpiau roc, pop a ska, ond yn yr wythdegau canol ychwanegwyd stiwdio 8-trac, ac yn sgil hyn recordiwyd mwy o artistiaid, a mentro mewn i’r meysydd corawl, gwerin a canu gwlad.
Erbyn y nawdegau cynnar roedd y stiwdio yn 24-trac gyda’r catalog yn cynyddu hefyd, ac yn 1997 daeth label newydd o’r enw fflach:tradd, label cerddoriaeth traddiodiadol Gymreig, a thorri tir newydd gyda CDs fel Ffidil, y cyntaf o’i fath yng Nghymru – daeth y label hwn â chydnabyddiaeth dramor i Fflach. Nes mlaen yn 2000 ffurfiwyd Rasp, label indie/dawns gan recordio ymysg eraill Swci Boscawen, Texas Radio Band a Vanta. Mae’r stiwdio nawr yn hollol ddigidol ac artistiaid newydd yn cael eu recordio o hyd, ac ar gael i’w llogi hefyd.