Cartref digidol diwylliant Cymru.

Drawn to Ice Hockey

Organisation Logo

Fy enw i yw Lucy Jenkins ac rydw i’n arlunwraig ac animeiddwraig o’r Bont Faen sydd ar hyn o bryd yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fy hoff math o gelf i’w wneud yw portreadau pensil realistig ond rydw i hefyd yn hoff o wneud lluniau cartwn o bobl – yn enwedig bandiau Cymraeg. Des i â rhai o’m lluniau yn fyw wrth animeiddio fideo cerddoriaeth i’r gân, ‘Tafla’r Dis’ gan Mei Gwynedd, gafodd ei rhyddhau yn 2019. Er fy mod i ond newydd ddechrau rhyddhau fy animeiddiadau, rwyf wedi bod yn animeiddio ers o’n i’n tua 8 mlwydd oed ac mae fy angerdd am animeiddio yr un mor fyw ag erioed. Wrth animeiddio, rwy’n hoffi cymryd ysbrydoliaeth o animeiddwyr Prydeinig y 70au megis David Sproxton a Peter Lord, Bob Godfrey, ac Ivor Wood, yn ogystal â steiliau mwy cyffredinol o gartwnau y 90au a’r 00oedd – un o fy hoff gyfnodau. Fy mhrif ysbrydoliaeth yw pobl. Mae gan bawb bethau sy’n eu gwneud nhw’n unigryw a diddorol ac mae celf yn ffordd da o ddangos faint rwy’n gwerthfawrogi nhw.

Cynnwys