Guava Rockets yw’r bartneriaeth gerddorol newydd rhwng Megan Angharad Hunter a Dave Hunter, sydd yn cael ei ryddhau drwy’r label Dim Byd Mawr.
Mae Megan Angharad Hunter yn awdur, sgrin-awdur a cherddor sydd yn siarad Cymraeg o Ddyffryn Nantlle, Gogledd Cymru. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf tu ôl i’r awyr yn 2021 a enillodd Wobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn, ac yna ei hail nofel Cat fel rhan o gyfres Y Pump, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2022. Mi enillodd y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2020/1 hefyd. Yn ystyried yr emosiwn, dynameg a sgil gerddorol sydd yn amlwg yn llais Megan yn Guava Rockets, mae’n syndod mai dim ond yn ddiweddar yn ei gyrfa cerddorol mae hi wedi dechrau canu; mae hi hefyd yn ffliwtydd clasurol llwyddiannus, yn ogystal â gallu chwarae’r piano, telyn Cymreig, sacsoffon a gitar, ac yn ysgrifennydd caneuon medrus.
Mewn modd debyg, mae’r gitarydd, aml-offerynnwr, ac ysgrifennydd caneuon Dave Hunter yn cael ei adnabod orau fel newyddiadurwr cerddoriaeth llwyddiannus, yn enwedig am ei lyfrau am gitars ac offer cysylltedig. Mae hyn i gyd yn tarddu o gariad at gerddoriaeth, ac mae gen Dave brofiad estynedig yn y maes – o fod aelod sefydledig o’r band indi-roc 90au o Lundain Drugstore, i gyfansoddi a recordio cerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu (yn cynnwys y sgôr ar gyfer y rhaglen America Gaeth a’r Cymry a enillodd BAFTA), a datblygu ei sgiliau cynhyrchu ar y ffordd. Ers symud yn i arfordir dwyreiniol ei famwlad yr UDA yn y 2000au, mae Dave hefyd wedi arwain y band roots-rock poblogaidd The Molenes a’r band indi-roc A Different Engine, a rhyddhau’r prosiect unigol I Think We’re Ready, wedi’i ysbrydoli gan y pandemig, yn 2021.
Fel Guava Rockets, mae Dave a Megan yn dod a’r holl amrywiaeth a dimensiwn o’u mentrau creadigol at ei gilydd a’u plethu i fewn i rhywbeth breuddwydiol, gobeithiol ac ysbrydoledig.