Colli’r Plot gyda Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros.
Pedwar awdur sy’n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn amal yn ei cholli hi.
Dan ni’n mynd i fwydro am sgwennu a llyfrau a bob dim dan haul a dan ni’n mynd i drio cael testun i bob podlediad, ond nabod ni, mi fyddan ni’n mynd ar gyfeiliorn ac yn mynd i gyfeiriadau cwbl annisgwyl ac yn deud pethau doedden ni’m wedi bwriadu eu deud o gwbl.
Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.