Cartref digidol diwylliant Cymru.

Clera

Organisation Logo

Mae Clera yn bodlediad barddol Cymraeg sy’n rhoi sylw yn fisol i bob agwedd ar y sin farddol yng Nghymru. Yng nghwmni Aneurig (sef Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury) a gyda chyfraniadau gan y Posfeistr Gruffudd Antur, mae Clera yn cynnwys nifer o eitemau rheolaidd ac achlysurol. O fis I fis, ceir cyfle i drafod amryfal bynciau barddol yn y ‘Pwnco’, gosodir pos newydd gan Gruffudd Antur, ceir cerdd gan fardd gwahanol bob tro yn eitem ‘Yr Orffwysfa’ ac fe ddyfernir pwy sy’n ennill ‘Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis’. Hyn oll a chymaint mwy, ar y podlediad barddol Cymraeg mwyaf poblogaidd yn y bydysawd! Noddir Clera gan Gwmni Llŷr James a’i Gyfrifwyr, neu fel rydyn ni’n ei adnabod, Llŷr Hael.

Cynnwys