Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd (GAC) yn dod a phobl at ei gilydd i ddathlu’r gwaith animeiddio gorau dros y byd i gyd ar gyfer oedolion, teuluoedd a gwneuthurwyr ffilm. Maent yn gwneud hyn dros bedwar diwrnod mewn gŵyl ryngwladol, nosweithiau animeiddio yng Nghaerdydd yn fisol a chyfres newydd o ddigwyddiadau ar-lein. Mae GAC yn arddangos amrywiaeth eang iawn o waith o ffilmiau animeiddio byr, ffilmiau hir, dosbarthiadau meistr, gweithdai, sesiynau cwestiwn ac ateb gyda gwneuthurwyr ffilm, rhaglenni addysgiadol, ffilmiau tu ôl i’r llen, digwyddiadau diwydiannol, panelau, digwyddiadau rhwydweithiol a phartïon. Mae GAC yn gymuned nid er elw ac yn cael ei redeg gan dîm o bobl sy’n caru animeiddio ac sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’r tîm wedi bod yn cynnal digwyddiadau animeiddio yng Nghymru ers 2014.