Wedi’i sefydlu gan Siarter Brenhinol ym 1907, Amgueddfa Cymru yw sefydliad diwylliannol pwysicaf Cymru, ac un o’r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Amgueddfa yn geidwad ar gasgliad amrywiol sydd ag arwyddocâd rhyngwladol, ac mae’n arwain ym maes addysg a chyfranogiad diwylliannol.
Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru hefyd Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw, ger Caerdydd.